Mae Chwarel Marford, hen chwarel tywod a gro, eisoes yn un o’r safleoedd gorau yng Nghymru am ei hamrywiaeth o bryfed. Mae’r safle wedi’i ddynodi yn SDdGA oherwydd bod yno blanhigion llaethwyg a thrychfilod bach sy’n byw yn y tywod, yn enwedig grŵp o’r enw “Hymenoptera pigog” (gwenyn, morgrug a gwenyn meirch). Mae’r amrywiaeth o gynefinoedd ôl-ddiwydiannol hefyd yn darparu cynefin i 35 o rywogaethau o loÿnnod byw ffynnu, yn ogystal ag amrywiaeth o degeirianau ac amrywiaeth o adar a mamaliaid.
Trychfilod Bach Bendigedig Marford!
Mae prosiect Trychfilod Bach Bendigedig Marford yn cael ei ariannu gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Bydd y cyllid hwn yn cefnogi staff, contractwyr a gwirfoddolwyr i gynnal ac i wella’r mosaig o gynefinoedd yng Ngwarchodfa Natur Chwarel Marford, gan ganolbwyntio ar wella amodau ar gyfer infertebratau.
Efallai eich bod eisoes wedi gweld rhywfaint o’r gwaith tir mawr rydyn ni wedi’i wneud ar y safle’n ddiweddar i wneud cynefinoedd newydd ar gyfer infertebratau – gan ddefnyddio tractorau a chloddwyr! Dros y misoedd nesaf, byddwn hefyd yn gwneud gwelliannau sylweddol i brofiad ymwelwyr ar y safle, ac mae llawer o syniadau cyffrous ar y gweill – cadwch lygad ar agor!
Ar ben hyn i gyd, byddwn yn gweithio i ddarparu llawer mwy o ddehongliadau ar y safle i ymwelwyr, byddwn yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous, a byddwn hyd yn oed yn comisiynu cerfluniau enfawr o’r trychfilod bach i ddod â’r lle yn fyw!
Dewch i gymryd rhan drwy gysylltu â ni
Os hoffech chi gymryd rhan, beth am ymuno â’n tîm gwirfoddol cyfeillgar yn Marford. I gofrestru, ac i gael rhagor o wybodaeth, tarwch olwg ar ein Tudalen gwirfoddoli.
Cadwch lygad am y gwahanol Ddigwyddiadau byddwn ni’n eu cynnal yn Chwarel Marford dros y misoedd nesaf, sy’n cynnwys Taith Gerdded Gloÿnnod Byw, Helfa Drychfilod i Oedolion, Gweithdy Garddio Bywyd Gwyllt, Gweithdy Celf Amgylcheddol, Taith Gerdded i Ddysgwyr Cymraeg a Thaith Gerdded Bywyd Gwyllt – gyda chŵn!