Mae pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect ‘Ein Glannau Gwyllt’ ar Ynys Môn wedi dod at ei gilydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i ddatblygu a chyflwyno ymgyrch gymunedol i gael pobl i weithio gyda natur. Ar ôl llawer o waith caled, rydyn ni’n falch o gael cyflwyno Tyfu Môn! Yn cael ei ddarparu ar gyfer Porthaethwy i ddechrau, bydd y prosiect yma sy’n cael ei gyllido gan fenter Grow Wild Kew Gardens, yn cynnwys cyflwyno 6 digwyddiad cyffrous yn ein Gwarchodfa Natur yng Nghaeau Pen-y-Clip, gyda’r ffocws i gyd ar ein rhywogaethau brodorol anhygoel o flodau gwyllt. Bydd y meysydd sy’n cael sylw’n amrywio o ddysgu sut i gasglu hadau gwyllt i sut i greu gardd drawiadol sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ac adnabod blodau eich hun.
Mae’r bobl ifanc tu ôl i Tyfu Môn yn hoff iawn o fyd natur a bywyd gwyllt ac maent eisiau dod â phobl at ei gilydd i dynnu sylw at faterion a rhoi gwybodaeth i bobl. Mae Jayke yn un o’r bobl ifanc yma ac meddai: :
“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn rhywogaethau brodorol o fywyd gwyllt a beth allwn ni ei wneud i helpu’r rhai sy’n cael trafferth. Rydw i’n poeni am wenyn yn arbennig ac wir eisiau gwneud rhywbeth i helpu. Rydw i’n meddwl mai blodau gwyllt brodorol (gan eu bod nhw mor dlws!) ydi’r ffordd orau i gael cymunedau ar Ynys Môn i ymddiddori mewn helpu planhigion a phryfed yn gyffredinol”.
Mae ein holl ddigwyddiadau ni i’w gweld ar ein tudalen ni ar Facebook (@TyfuMon) neu ar wefan YNGC. Dewch draw i ymuno â ni i greu cartrefi ar gyfer bywyd gwyllt!