Wythnos cofio am elusen yn eich Ewyllys!

Wythnos cofio am elusen yn eich Ewyllys!

Wombles © Remember a Charity

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn falch o fod yn ymuno â dros 200 o elusennau ledled y wlad i ddathlu’r holl unigolion anhygoel sy’n cefnogi eu gwasanaethau hanfodol drwy adael rhodd i elusen yn eu Hewyllys.

Wythnos Cofio Elusen (5 hyd at 11 Medi)

Oeddech chi’n gwybod bod 22% o incwm gwirfoddol Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn dod o roddion mewn Ewyllysiau? Mae’r rhoddion hyn yn hynod bwysig o ran ariannu gwaith Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, ac eisoes wedi’u defnyddio i gyflawni pethau arbennig. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rhoddion o’r fath wedi helpu Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i reoli gwarchodfeydd natur, gwarchod rhywogaethau unigol, achub safleoedd bywyd gwyllt a helpu plant ysgol i greu gerddi gwyllt bendigedig – ond mae cymaint mwy y gellid ei wneud. Felly, mae codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y rhoddion hyn ac annog eraill i wneud hynny yn hanfodol er mwyn gwarchod bywyd gwyllt a mannau gwyllt lleol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Nod yr wythnos yw tynnu sylw at y ffaith y gall unrhyw un adael rhodd yn eu Hewyllys a throsglwyddo rhywbeth arbennig unwaith bydd darpariaeth wedi’i sicrhau ar gael eu hanwyliaid.

Mae pob rhodd ym mhob Ewyllys, waeth beth yw ei faint, yn gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd gwyllt lleol.

Llys Garth wildlife garden

Llys Garth wildlife garden

Diwrnod Agored y Cyfreithwyr

Ymunwch â ni yn ein prif swyddfa ym Mangor ddydd Mawrth 6 Medi. Bydd teithiau tywys o amgylch yr ardd bywyd gwyllt godidog, digonedd o de a chacennau am ddim, Orinoco y Womble a chyngor am ddim am Ewyllysiau gan gwmni cyfreithwyr lleol, Swayne Johnson.

Manylion Pellach am y Digwyddiad

Uchafbwynt yr wythnos yw diwrnod agored ym mhencadlys Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ym Mangor ddydd Mawrth 6 Medi. Bydd teithiau tywys o amgylch yr ardd bywyd gwyllt godidog yn cael eu cynnal gyda digonedd o de a chacennau am ddim ar gael. Hefyd, bydd Orinoco y Womble yn gwneud ymddangosiad gyda digon o gyfleoedd i dynnu hunluniau! Yn bwysicach na hynny efallai, bydd Swyddog Datblygu Etifeddiaeth yr Ymddiriedolaeth a chynrychiolwyr o’r cwmni cyfreithwyr lleol, Swayne Johnson, wrth law i ateb unrhyw gwestiynau yn ymwneud ag Ewyllysiau. Mae’n gyfle gwych i gael cyngor cyfreithiol am ddim.

Yn yr oes fodern hon o faterion ariannol cymhleth, teuluoedd estynedig a chynnydd mewn ymgyfreitha, mae gwneud Ewyllys yn bwysicach nag erioed. Ewyllys yw’r unig ffordd o sicrhau bod eich arian a’ch holl eiddo yn mynd i’r bobl a’r achosion sy’n bwysig i chi, ac i sicrhau y gwneir darpariaeth ar gyfer eich anwyliaid pan fyddwch chi wedi ymadael.
Kaye Jones
Swayne Johnson Solicitors

Pan ddaw’r amser i ysgrifennu eich Ewyllys, yn naturiol mae pobl eisiau sicrhau y gwneir darpariaeth ar gyfer eu hanwyliaid. Ond os oes lle i elusen yn eich ewyllys, gall hyd yn oed y cyfraniad lleiaf wneud gwahaniaeth enfawr. Yn ystod Wythnos Cofio Elusen, mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn cynnig y cyfle i adael eich ôl troed ar ein tirwedd am byth ac ysgrifennu eich Ewyllys yn rhad ac am ddim gyda chymorth gan ei partneriaid ysgrifennu Ewyllys o’r safon uchaf. Byddwn yn eithriadol o falch o bob rhodd, ond does dim rheidrwydd.