Y Môr a Ni: Fframwaith Llythrennedd y Môr newydd i Gymru

Y Môr a Ni: Fframwaith Llythrennedd y Môr newydd i Gymru

Yn ddiweddar, lansiodd menter newydd dan arweiniad Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (CaSP Cymru), y mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn aelod ohoni, ‘Y Môr a Ni’ – fframwaith ar gyfer Llythrennedd y Môr yng Nghymru, y cyntaf o’i fath yn y DU.
Nod y strategaeth yw meithrin perthynas pobl â’n harfordiroedd a’n moroedd ni, ac mae’n gam mawr ymlaen o ran gwarchodaeth forol yng Nghymru.

Rydyn ni’n falch o fod wedi helpu i gyd-ddylunio Y Môr a Ni, sy’n gam mawr ymlaen wrth helpu i warchod ein bywyd gwyllt morol anhygoel ni, a’r moroedd a’r arfordir ledled Cymru. Drwy gyfrwng Y Môr a Ni, rydyn ni wedi gweithio gyda 22 o sefydliadau ledled Cymru gan gynnwys CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru), Llywodraeth Cymru, y Gymdeithas Cadwraeth Forol a Phrifysgol Caerdydd i godi ymwybyddiaeth o’n dylanwad ni ar y môr a dylanwad y môr arnom ni.

Po fwyaf o gysylltiad y mae pobl yn ei deimlo gyda'r môr, y mwyaf ymwybodol y daw pobl o’u heffeithiau unigol a chymdeithasol ar amgylcheddau morol ac arfordirol. Fe all hyn arwain at newidiadau mewn ymddygiad sy’n diogelu ac yn gwarchod y mannau naturiol pwysig yma, yn ogystal â’r holl fuddion maen nhw’n eu darparu.

 

Dewch o hyd i’r Strategaeth Llythrennedd y Môr, sef Y Môr a Ni, yn llawn yma

 

Y Mor a Ni
Wales Coast and Seas Partnership

Mae gofod glas, fel y môr a’r arfordir, yn darparu ardaloedd a all wella eich lles corfforol a meddyliol chi, yn ogystal â darparu amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau, gyda rhai ohonyn nhw ond i’w cael yn y DU.

Mae'r amgylcheddau morol yma’n cefnogi diwydiannau lleol, yn cyfrannu at y sectorau bwyd ac ynni ac yn darparu swyddi, yn enwedig mewn llecynnau poblogaidd o ran twristiaeth.

Mae ein moroedd ni a'r holl fuddion sy’n cael eu darparu ganddyn nhw’n wynebu bygythiadau o sawl cyfeiriad, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd a llygredd. Nod Y Môr a Ni yw galluogi unigolion, cymunedau a busnesau i newid eu perthynas â’r môr, gan arwain at gamau gweithredu, mawr a bach, fedr gefnogi llesiant lleol yn ogystal â diogelu’r amgylcheddau arbennig yma.

 

"Mae’r môr yn hynod bwysig i Ogledd Cymru, gan siapio ein hunaniaeth ni, yr economi, ein diwylliant a’r amgylchedd.

 

Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o Y Môr a Ni sy’n cryfhau’r cysylltiad rhwng pobl a’r môr ac yn arddangos pwysigrwydd morlun iach a ffyniannus.”

 

Nia Hâf Jones, Rheolwr Moroedd Byw yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Reece Halstead, Cydlynydd Llythrennedd y Môr Cymru, ar reece.halstead@northwaleswildlifetrust.org.uk

Beach Users at Porthdinllaen