Cam mawr ar gyfer Mapio Carbon Glas yn y DU!

Cam mawr ar gyfer Mapio Carbon Glas yn y DU!

Seagrass © Paul Naylor  http://www.marinephoto.co.uk/

Heddiw, mae’r Ymddiriedolaethau Natur, mewn cydweithrediad â WWF, RSPB a Scottish Association of Marine Science wedi lansio Y Prosiect Mapio Carbon Glas. Bydd hyn yn golygu mai’r DU fydd y cyntaf yn y byd i fapio ac amcangyfrif faint o garbon sydd wedi’i storio yn gynefinoedd gwely’r môr, gan gynnwys mewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig (AGM).

Mae adroddiad carreg filltir a gyhoeddwyd heddiw gan glymblaid o elusennau natur yn darparu’r amcangyfrif cyntaf o’r carbon sy’n cael ei storio mewn cynefinoedd gwely’r môr ym Môr Iwerddon ac ar hyd Arfordir Cymru.

Mae'r adroddiad yn rhan o'r Prosiect Mapio Carbon Glas, sydd wedi’i gwblhau gan Gymdeithas Gwyddoniaeth Forol yr Alban (SAMS) ar ran WWF-UK, yr Ymddiriedolaethau Natur a'r RSPB. Mae’r gyfres o adroddiadau’n golygu mai’r DU yw’r wlad gyntaf i fapio ac amcangyfrif faint o garbon sydd wedi’i storio yn ei chynefinoedd gwely’r môr, gan gynnwys o fewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig (AGM).

Mae’r adroddiad yn datgelu bod 15.7 miliwn tunnell o garbon organig* yn cael ei storio mewn dim ond y 10cm uchaf o waddodion gwely’r môr – sydd wedi’u gwneud yn bennaf o fwd – yn Rhanbarth Arfordir Cymru a Môr Iwerddon.

Mae Rhanbarth Arfordir Cymru a Môr Iwerddon yn ymestyn dros 43,112 o gilometrau sgwâr. Mae’r ardal eang hon yn gartref i gynefinoedd sy’n dal ac yn storio carbon, a elwir yn ‘garbon glas’. Maent yn cynnwys gwaddodion gwely’r môr (sydd wedi’u gwneud o fwd, llifwaddod a thywod), cynefinoedd sydd â llystyfiant (dolydd morwellt, morfeydd heli, coedwigoedd môr-wiail a gwymon rhynglanwol), gwelyau maerl a riffiau biogenig, fel gwelyau cregyn gleision a riffiau llyngyr y diliau.

Mae carbon yn cael ei amsugno'n bennaf gan ffytoplancton, sy'n drifftio i waelod y môr pan maent yn marw ac yn cael eu hychwanegu at waddod gwely'r môr. Dadansoddodd yr ymchwil gynhwysedd storio dim ond y 10cm uchaf o waddod. Mae rhai gwaddodion yn gannoedd o fetrau o drwch ac yn cynnwys gwerth milenia o garbon, felly bydd cyfanswm y carbon sy’n cael ei storio yn llawer mwy.

Mae’r Prosiect Mapio Carbon Glas yn amlygu sut mae tarfu corfforol ar wely’r môr, gan gynnwys gweithgarwch dynol fel treillio ar y gwaelod, yn ogystal ag angorfeydd a datblygiadau alltraeth, yn fygythiad i storfeydd carbon glas. Gall tarfu ar gynefinoedd gwely’r môr ryddhau llawer iawn o garbon i’r atmosffer, gan waethygu’r newid yn yr hinsawdd.

Mae WWF, yr Ymddiriedolaethau Natur a’r RSPB yn galw ar lywodraethau ledled y DU i gryfhau’r warchodaeth i storfeydd carbon glas gwerthfawr – gan gynnwys mewn MPAs – drwy leihau effeithiau gweithgareddau dynol ar wely’r môr. Ni ddynodwyd y rhan fwyaf o’r MPAs i ddiogelu carbon glas, a gallai methu â gwarchod yr ardaloedd hyn rhag tarfu fygwth nodau hinsawdd a bioamrywiaeth – gan gynnwys sero net a diogelu 30% o’r môr erbyn 2030.

DARLLENWCH YR ADRODDIADAU....

DARGANFYDDWCH MWY AM BETH RYDYM YN EI WNEUD YMA YNG NGOGLEDD CYMRU AR GYFER EIN CYNEFINOEDD CARBON GLAS...