Gwarchodfa Natur Chwarel Mwynglawdd
Lleoliad
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Trwy gydol y flwyddynAm dan y warchodfa
Gyda hanes diwydiannol o fwy na 400 mlynedd, gellid dadlau bod y safle hwn yr un mor bwysig yn ddiwylliannol ag ydyw i fywyd gwyllt. Roedd yn cael ei fwyngloddio am blwm yn wreiddiol ac wedyn ei chwarelu am ei galchfaen gwerthfawr (tan 1994). Erbyn hyn, mae’r warchodfa’n cynnwys ardaloedd sydd mewn gwahanol gamau o ailsefydlu. Mae coetir wedi sefydlu yn rhannau hynaf y chwarel ond creigiau noeth sydd i’w gweld o hyd yn yr ardaloedd lle bu’r gwaith mwyaf diweddar - edrychwch yn sydyn ar wyneb agored y chwarel am adar ysglyfaethus a chigfrain yn nythu. Yn yr haf, mae’r priddoedd llawn calch yn creu glaswelltir llawn lliw, gyda llawer o rywogaethau o degeirianau’n ffynnu ochr yn ochr â rhywogaethau prin a than fygythiad eraill o blanhigion, fel y lloerlys a’r llin llyffant llwyd. Mae amrywiaeth ryfeddol o infertebrata prin (glöynnod byw, gwenyn, pryfed, gwyfynod a chwilod) yn byw ar y tir ac yn y glaswelltir, gan gynnwys cacwn y mynydd, y glöyn llwyd a’r gwyfyn cliradain rhesog. Wrth gerdded drwy’r coetir, bydd cân y gwybedog mannog, y tingoch a’r telor penddu yn gyfeiliant i chi a, gyda’r nos, bydd ‘twit-a-hw’ nodweddiadol y dylluan frech i’w glywed.
Oeddech chi'n gwybod?
Mae Chwarel Minera’n safle daearegol enwog. Mae gwely môr 440 miliwn o flynyddoedd oed i’w weld y tu hwnt i’r pwll ac mae ffosilau i’w gweld ym mhob man – edrychwch yn fanwl ar y meini mawr ryw 100m o’r fynedfa ar y prif drac.
Cyfarwyddiadau
O’r A483, fymryn i’r gorllewin o Wrecsam, dilynwch yr A525 am Ruthun. Dilynwch y ffordd drwy Goedpoeth ac, wrth i chi adael y pentref, trowch i’r chwith ar y B5426 (i gyfeiriad Minera/World’s End). Ewch i’r dde yn union gyferbyn ag Ysgol Gynradd Minera, ewch ymlaen heibio i Eglwys y Santes Fair ac wedyn rownd tro sydyn i’r chwith. Cymerwch y ffordd gyntaf ar y chwith i Ffordd Maes-y-Ffynnon a’i dilyn nes dod i faes parcio bychan y warchodfa (SJ 258 519).
Rhywogaethau
Cysylltwch â ni
Support us
Join today!