Fe ddywedodd rhywun ryw dro ‘os prynwch chi boblogaeth o Fôr-wenoliaid Pigddu a chreu gwarchodfa natur ... mae’n bur debyg y byddan nhw’n talu’n ôl i chi’r flwyddyn ganlynol drwy nythu yn rhywle arall’. Roedd Rob Hume yn llygad ei le. Rhwng 2012 a 2016, roedd poblogaeth fagu’r Môr-wenoliaid Pigddu yng Nghemlyn yn 2400 o barau o oedolion ar gyfartaledd, gan fagu bron i 1000 o gywion bob blwyddyn. Môr-wenoliaid Cemlyn yw, neu oedd, 20% o boblogaeth y DU o Fôr-wenoliaid Pigddu, a 3% o holl boblogaeth y byd. Hefyd hon oedd yr unig boblogaeth o Fôr-wenoliaid Pigddu yng Nghymru. Y gwanwyn yma, roedd Cemlyn yn gymharol dawel ac roedd y gri uchel, ansoniarus, ‘ERIC’, sy’n arfer cyhoeddi dyfodiad yr haf yng ngogledd Ynys Môn, yn dawelach nag arfer. Beth oedd wedi digwydd?
Ymwelwch â Gwarchodfa Natur Cemlyn i weld y môr-wennoliaid
Môr-wenoliaid Pigddu yw’r rhywogaeth fwyaf a thrymaf o’r rhywogaethau magu Prydeinig o fôr-wenoliaid ond, er gwaethaf eu maint, maent yn gymharol ddiniwed wrth amddiffyn eu nythod ac yn ymateb yn ddwys i aflonyddwch, ysglyfaethwyr ac, yn ôl pob tebyg i’r llygaid dynol, mympwy llwyr.
Yn 2017, cododd twf cyflym y boblogaeth o Fôr-wenoliaid Pigddu yng Nghemlyn bryderon y byddai cystadleuaeth am ofod nythu yn erbyn rhywogaethau eraill Cemlyn o fôr-wenoliaid. Gosodwyd rafftiau artiffisial yn eu lle ar fôr-lyn Cemlyn fel lle ychwanegol ar gyfer safleoedd nythu unrhyw Fôr-wenoliaid Cyffredin neu Fôr-wenoliaid y Gogledd oedd yn colli’u lle i’w cefndryd mwy. Ond, fel y digwyddodd pethau, nid oedd angen y safleoedd nythu ychwanegol. Yn ystod haf 2017, ni fu unrhyw nythu gan y Môr-wenoliaid Pigddu a’r rheswm (pennaf) am hynny oedd ysglyfaethwyr, teulu o ddyfrgwn yn tarfu arnyn nhw, a tharfu o fath arall. Roedd rhywogaethau eraill yn ychwanegu at y tarfu. Ni lwyddodd y Môr-wenoliaid Pigddu i fagu ac erbyn dechrau mis Mehefin 2017, roeddent i gyd wedi gadael Cemlyn a gogledd Ynys Môn heb fagu cywion.
Mae Cemlyn yn rhan o rwydwaith Ewropeaidd o safleoedd ar gyfer cynefinoedd adar a bywyd gwyllt; rhwydwaith Natura 2000. Mae gan bob un o’r safleoedd hyn gynllun rheoli pwrpasol i warchod, cadw a chreu cadernid ar gyfer bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol. Ar gyfer Cemlyn, mae’r cynllun rheoli statudol yn cynnwys nodau penodol o ran darparu cynefin nythu i fôr-wenoliaid, os ydynt yn bresennol ai peidio. Yn unol â’r cynllun rheoli yma a’r nodau rhyngwladol tymor hir ar gyfer gwarchod a rheoli môr-wenoliaid, yn gynnar yn 2018, aeth Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ati i weithredu sawl prosiect, gan gynnwys creu gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd, gwarchod y cynefinoedd nythu rhag ysglyfaethwyr, a rheolaeth heb ladd ar ysglyfaethwyr. Cyllidwyd y gwaith yma drwy Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd a’r prosiect ‘gwella rhagolygon cadwraeth y rhywogaeth flaenoriaeth, y Fôr-wennol Wridog, ledled ei hardaloedd yn y DU ac Iwerddon’.
Er gwaetha’r ymdrechion hyn, ac er i gynefin nythu newydd, diogel gael ei greu, mae 2018 wedi bod yn flwyddyn nodedig eto – ond am y rhesymau anghywir. Y gwanwyn yma, dychwelodd llawer llai o Fôr-wenoliaid Pigddu i Gemlyn nag yn 2017 ac nid oeddem yn siŵr i ble oedd yr adar eithriadol hardd yma a’u lleisiau sgrechllyd erchyll wedi mynd, ond cafodd Hodbarrow yn Cumbria ddechrau arbennig o dda i’r flwyddyn. Mae sawl ffactor yn gallu dylanwadu ar ddosbarthiad a llwyddiant magu môr-wenoliaid, ac yn sicr newid yn yr hinsawdd a’r tywydd o amgylch eu safleoedd magu yng ngogledd orllewin Ewrop, a hefyd eu tiriogaethau gaeafu yng Ngorllewin Affrica.
Tua diwedd gaeaf 2017/18 fe ddaeth yr hyn oedd yn cael ei alw’n ‘Fwystfil y Dwyrain’ ar ymweliad â ni – cyfnod estynedig o dywydd oer iawn ledled y DU. Er na fyddai’r oerni yma wedi cael effaith uniongyrchol ar y Môr-wenoliaid Pigddu a fyddai, ar y pryd, dal ar eu tiroedd gaeafu o amgylch arfordir Gorllewin Affrica, efallai bod yr oerni eithafol a gwyntoedd gogleddol a dwyreiniol cryf wedi effeithio ar eu mudo tua’r gogledd, a hefyd ar dymheredd y môr a dosbarthiad pysgod. Mae môr-wenoliaid sy’n cyrraedd y DU ar ôl siwrnai faith a llafurus yn dibynnu ar lysywod y tywod fel tanwydd i’w hadfywio cyn magu, i’w cyflwyno i’w cymar fel cymhelliant i baru ac, yn y pen draw, i fwydo eu cywion ifanc. Yng Ngwanwyn 2018, roedd y gwyntoedd gogledd ddwyreiniol yn parhau i reoli’r patrymau tywydd ac wedi sgyrsiau anffurfiol gyda physgotwyr môr a physgotwyr cychod siarter o amgylch arfordir Môn, clywsom am absenoldeb llysywod y tywod mewn ardaloedd arfordirol, yn ogystal â thymheredd anghyffredin o oer yn y dŵr ym misoedd Ebrill a Mai. Wrth i’r haf fynd yn ei flaen, daw llysywod y tywod a’r pysgod bach sy’n sail i ddeiet y môr-wenoliaid yn eu hôl. Er hynny, efallai y bydd yn rhy hwyr i annog niferoedd mawr o Fôr-wenoliaid Pigddu i setlo a magu yng Nghemlyn eleni.
Mae’n wir bod tarfu gan ysglyfaethwyr yn 2017 wedi arwain mae’n bur debyg at y tair rhywogaeth o fôr-wenoliaid sy’n dod i Gemlyn yn gadael eu nythod. Er hynny, byddai’n simplistig awgrymu bod yr ysglyfaethwyr hyn wedi ‘achosi’ i’r Môr-wenoliaid Pigddu osgoi’r safle eleni. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi gwneud gwaith sylweddol i atal ysglyfaethwyr ac mae’r wardeiniaid haf, Tim a Tarik, wedi dweud nad oes unrhyw ddyfrgwn wedi’u gweld ar ynysoedd y môr-lyn y Gwanwyn yma. Er gwaethaf anawsterau 2017, denodd Cemlyn Fôr-wenoliaid Pigddu, Môr-wenoliaid Cyffredin a Môr-wenoliaid y Gogledd. Ddechrau mis Mehefin, wrth gyfrif, roedd tua 300 o nythod Môr-wenoliaid Pigddu - 10% o gyfrif y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, roedd dychweliad a phresenoldeb y môr-wenoliaid a’r gwylanod penddu yng Nghemlyn yn y gwanwyn yn rhoi sicrwydd i ni bod safle Cemlyn, gyda’i gynefin nythu newydd, gwell a ‘diogelach’, yn lle gwerth chweil i baru a magu cywion ifanc
Mae’r tywydd yn ystod 2018 wedi bod yn anodd ei ddarogan a dweud y lleiaf. Ar 14eg Mehefin, roedd arfordir gorllewin y DU yn nannedd Storm Hector ac wrth fynd ymhellach i’r gogledd ar y diwrnod hwnnw, roedd y gwynt yn cryfhau. Ar y 18fed a’r 19eg Mehefin, cyrhaeddodd tua 500 o Fôr-wenoliaid Pigddu i Gemlyn. Mae diwedd mis Mehefin wedi gweld tywydd anarferol tebyg, gyda thymheredd uchel iawn a dim glaw, yn enwedig yn y gogledd a’r gorllewin. Ar 30ain Mehefin, daeth tua 200 o Fôr-wenoliaid Pigddu ychwanegol i Gemlyn. Mae’r adar newydd yma’n golygu bod yr amcangyfrif cyffredinol ar gyfer y Môr-wenoliaid wedi codi i 1500 neu 1800 ac mae’n ymddangos bod llawer o’r hwyr-ddyfodiaid yn gwneud ymdrechion uchelgeisiol i fagu!
Gwell hwyr na hwyrach!