Sut Bydd Rhoddion Mewn Ewyllysiau Yn Helpu
Mae Rhoddion mewn Ewyllysiau yn hanfodol i waith parhaus Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Ewch am dro rithwir o amgylch y map rhyngweithiol isod i weld dim ond rhywfaint o'r effaith mae rhoddion o’r fath wedi'i chael ar fywyd gwyllt a llefydd gwyllt Gogledd Cymru. Yn 2024, mae rhoddion mewn Ewyllysiau yn parhau i gefnogi nifer o brosiectau, gan gynnwys gwarchodaeth hanfodol i fôr-wenoliaid a gweilch y pysgod yng Nghemlyn a Llyn Brenig, a gosod meinciau newydd yn rhai o’n gwarchodfeydd natur hardd ni.
Beth fydd eich gwaddol?
Ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, mae cofio am Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn eich ewyllys yn gallu helpu i gadw eich atgofion am ein bywyd gwyllt yn fyw am genedlaethau i ddod. Mae arnom ni angen y gefnogaeth yma er mwyn sicrhau bod plant Gogledd Cymru’n gallu parhau i fwynhau eu bywyd gwyllt a’u llefydd gwyllt wrth iddyn nhw dyfu i fyny a chael eu teuluoedd eu hunain.
Mae pob rhodd ym mhob Ewyllys, boed yn fach neu’n fawr, yn gwneud gwahaniaeth.
Adar Brenig
Derbyniasom y swm anhygoel o £350,000 gan ymddiriedolaeth elusennol sefydlwyd yn Ewyllys Idris Jones. Fe fydd y rhodd yma yn gwella y cyflwr amgylcheddol o Warchodfa Natur Gors Maen Llwyd er lles bywyd gwyllt a chynyddu ymwybyddiaeth ar pam fod yr ardal mor bwysig ymysg y miloedd o bobl sydd yn ymweld â’r ardal pob blwyddyn – gwir gwaddol oes.
More information
Adar môr Cemlyn
Mae ewyllys ddiweddar o £21,000 yn ein helpu ni i warchod adar môr sy’n nythu yng Nghemlyn ar arfordir gogleddol gwyllt Ynys Môn. Mae’r safle’n gartref i’r unig boblogaeth nythu o fôr-wenoliaid pigddu yng Nghymru.
Dwy hwyaden fechan
22% o’n hincwm gwirfoddol yn ystod y pedair blnedd diwethaf wedi dod o roddion mewn Ewyllysiau. Mae hwn yn parhau I’n gallougi ni I ddiogelu bywyd a llefydd gwyllt lleol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.