Oeddech chi’n gwybod?
- Mae gan weilch y pysgod amrant tryloyw sy'n amddiffyn eu llygaid o dan y dŵr.
- Gall brogaod cyffredin anadlu ac yfed drwy eu croen.
- Gall pathewod dreulio bron i naw mis o'r flwyddyn yn cysgu.
- Gall glöyn byw y fantell dramor fudo am gyfanswm anhygoel o 5,000 o filltiroedd.
- Gall môr-gyllyll cyffredin newid lliw a gwead yn gyflym iawn i gyd-fynd â’u cefndir.
- Mae hebogau tramor yn gallu hedfan ar gyflymder anhygoel o hyd at 200 milltir yr awr.
- Mae morwellt yn gyfrifol am 15% o gyfanswm amsugno carbon y cefnforoedd.
- Mae wystrys y coed yn gigysyddion sy'n rhyddhau tocsin pwerus i lonyddu llyngyr microsgopig sy’n mynd heibio.
- Gall mwsoglau sffagnwm amsugno mwy nag wyth gwaith eu pwysau eu hunain mewn dŵr.
- Mae coed yw yn byw am amser eithriadol o hir. Amcangyfrifir bod un goeden yn Llangernyw mor hen â 5,000 o flynyddoedd oed.
Fel rhywun sy’n hoff iawn o natur, mae gennych chi arch bŵer hefyd! Ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, fe allwch chi helpu i ddiogelu bywyd gwyllt a llefydd gwyllt lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol drwy adael rhodd yn eich Ewyllys i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.