Roger Riley oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r grŵp a welodd Warchodfa Natur Big Pool Wood yn datblygu mewn cyfnod o ychydig flynyddoedd o fod yn wely cyrs tywyll, wedi gordyfu, nad oedd unrhyw un prin yn gwybod amdano, i fod yn un o’n gwlybdiroedd mwyaf hygyrch ni, gyda gweision y neidr a glöynnod byw yn hedfan ac yn dawnsio drwy ei lennyrch a’i rodfeydd heulog, llecyn y mae llawer o bobl yn ymweld ag ef ac yn hoff iawn ohono. Gall ymwelwyr eistedd a mwynhau’r amrywiaeth o adar o unrhyw un o’r tair cuddfan a chael cipolwg ar flodau gwyllt nodedig fel y clychlys mawr.
Pan aeth Roger a Gill ar ymweliad â Big Pool Wood am y tro cyntaf, fe wnaethon nhw benderfynu dod yn aelodau o'r Ymddiriedolaeth Natur a gwirfoddoli gyda’r gweithgorau. Ers hynny, roedd Roger yn bresenoldeb cyson yn y warchodfa, bob amser yn croesawu ymwelwyr hen a newydd fel ei gilydd ac yn eu hannog i ymuno â'r ymddiriedolaeth neu eu cael i ddod i'r gweithgorau. Ond roedd gan Roger weledigaeth hefyd, a’r egni, yr ymroddiad a’r gallu i helpu i godi Big Pool Wood o wely cyrs wedi gordyfu i fod yn un o warchodfeydd natur mwyaf hygyrch Gogledd Ddwyrain Cymru ac yn hafan i wylwyr adar a phobl sy’n hoff o fyd natur. Roedd yn rhan o bopeth, o osod llwybrau pren a chuddfannau adar yn eu lle i'r gofynion dyddiol o gadw'r teclynnau bwydo adar yn llawn a'r llwybrau ar agor.