Bore dydd Mawrth a dyma gychwyn yn gynnar iawn ar fferm Permaddiwylliant Henbant am dro corws y wawr. Fe gyrhaeddodd criw o 17 o bobl erbyn chwech y bore i gychwyn ar daith gerdded drwy’r cynefinoedd amrywiol ar y fferm adfywiol i weld a gwrando ar y bwrlwm o weithgarwch. Fe arweiniodd Ben Stammers, Swyddog Bywyd Gwyllt a Phobl Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ni drwy ardal o wlybdir ac i lawr i goetir trwchus lle'r oedd llwybr braf wedi'i greu gan y gwartheg sy'n pori'r ardal o bryd i'w gilydd. Wrth i ni gerdded, roedd y cynefinoedd yn newid o goetiroedd o helyg i blanhigfa Sitka i lennyrch agored, ac wedyn i ardaloedd newydd eu plannu a choetir hynafol. Roedd y rhain yn agor wedyn i ddatgelu pyllau mawr sy'n olion traed yr hen chwarel tywod a graean o flynyddoedd lawer yn ôl. Roedd yn daith gerdded fendigedig gyda Ben yn stopio bob hyn a hyn er mwyn i ni glywed cân telor yr ardd neu weld bwncath yn hedfan uwch ben, y gog yn canu yn y pellter neu i wylio’r ddaear yn garped o gannoedd o lyffantod a brogaod oedd newydd ymddangos. Ble bynnag roedden ni'n edrych roedd y coetir yn fyw ac yn ffynnu.
Cyfrif Bywyd Gwyllt Bryn Ifan
Fe aethon ni’n ôl i'r sgubor yn Henbant i gael brecwast wedi'i baratoi'n ffres a chyfle i sgwrsio am y bore hyfryd. Unwaith roedd pawb wedi cael llond eu bol, fe aethon ni i fyny i Fryn Ifan ar droed ar gyfer prif ddigwyddiad y dydd, sef Cyfrif Bywyd Gwyllt Bryn Ifan.
Yn ymuno â’n diwrnod ni roedd Cofnod, y ganolfan cofnodion amgylcheddol lleol ar gyfer Gogledd Cymru, prosiect LIFE y Coedwigoedd Glaw Celtaidd, Natur am Byth a llawer o aelodau o dîm YNGC. Fe rannwyd ychydig dros 60 o bobl yn bedwar grŵp – ymlusgiaid ac amffibiaid, pryfed, adar a phlanhigion. Fe aeth dau grŵp i lawr i Henbant am y bore ac arhosodd y dau arall ym Mryn Ifan; yn y prynhawn fe wnaethon nhw newid drosodd. Roedd trapiau gwyfynod wedi cael eu gosod yn eu lle y noson gynt ac fe roddwyd trefn arnyn nhw y peth cyntaf yn y bore gyda sawl rhywogaeth ddiddorol allweddol yn cael eu cadw’n ôl er mwyn i bawb oedd yno gael y cyfle i arsylwi pethau dydyn ni prin yn cael y cyfle i'w gweld.
Mae Bryn Ifan yn unigryw ymhlith y tir y mae’r ymddiriedolaeth yn berchen arno. I ddechrau, mae wedi cadw nodweddion fferm; yn cael ei bori gan ddefaid ar y caeau tir isel ac i fyny ar fryn Bwlch Mawr tra mae’r gwlybdiroedd yn cael eu pori gan wartheg. Rydyn ni’n gweithio i greu fferm ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, un sy’n rhoi byd natur yn gyntaf ac sydd eisiau dangos sut gall byd natur fod o fudd i gynhyrchiant fferm, gwarchod y tir ar gyfer y dyfodol a helpu’r argyfwng hinsawdd. Rydyn ni’n clywed llawer am ffermio sy’n gyfeillgar i fyd natur ac rydyn ni eisiau dangos sut mae posib ei gyflawni. Bydd y Cyfrif Bywyd Gwyllt ac arsylwadau'r grwpiau fu'n cerdded drwy'r ffermdir cynhyrchiol yn darparu llinell sylfaen ar gyfer mesur newidiadau yn y dyfodol yn ei herbyn.
Roeddwn i yn y grŵp ymlusgiaid ac amffibiaid aeth i Henbant. Fe gafodd y lloches gyntaf ei chodi gennym ni - ‘hen len haearn rhychiog’ – gan ddatgelu neidr y gwair hardd; dechrau da! O gwmpas Henbant a Bryn Ifan Isaf, roedd y grwpiau’n brysur yn gweld beth ’allen nhw ei weld a’n harbenigwyr ni wrth law i helpu i adnabod rhai o’r rhywogaethau anoddach.
Roedd Iolo Williams wedi teithio i fyny i ymuno â’n diwrnod ni, cyfle gwych i ni allu rhannu ein prosiect cyffrous newydd ym Mryn Ifan. Fe fwynhaodd pawb ei gwmni a chael sgwrs a rhannu eu hangerdd dros fywyd gwyllt a lle rydyn ni’n byw. Rydyn ni’n dal i gyfrif ar ôl y diwrnod ond rydyn ni wedi dod o hyd i lawer o rywogaethau diddorol a fydd yn ein helpu ni i ddeall y ffordd orau o reoli’r safle wrth symud ymlaen gyda dyfodol y prosiect.