Rydw i bob amser yn edrych am arwyddion o fywyd gwyllt wrth grwydro. Neithiwr, wrth fynd â fy nghi am dro, roeddwn i mor gyffrous o weld arwyddion cyntaf y ffenomenon oedd i ddod – diwrnod y morgrug hedegog (wel, fe ddown ni at ran y ‘diwrnod’ yn hyn mewn dipyn bach)! Mae'r twmpathau bach o bridd sych a thywod yn ffrwydro o unrhyw fwlch yn y palmant fel llosgfynyddoedd bach yn fy ngwneud i mor hapus.
Fe allai fy nghyffro i ynghylch morgrug gael ei ystyried fel rhywbeth braidd yn rhyfedd, ond rydw i'n meddwl bod morgrug yn eithaf anhygoel ac maen nhw’n cael eu camddeall gan y rhan fwyaf o bobl! Mae pa rywogaeth o forgrug welwch chi’n dibynnu ar ble rydych chi. O amgylch ein cartrefi ni ac mewn ardaloedd trefol eraill, rydych chi’n fwyaf tebygol o weld morgrug du (Lasius niger).
Heb forgrug fe fyddai gennym ni briddoedd eithaf gwael. Maen nhw'n ffermwyr bach gwych sy’n gweithredu fel arad bach, yn troi'r pridd gyda'u twnelu. Mae hyn yn helpu gwreiddiau planhigion i symud drwy’r pridd ac i ddŵr ddraenio. Mae morgrug yn ychwanegu maethynnau at y pridd ac yn helpu i gael gwared ar falurion, gan fwyta pryfed eraill wrth iddyn nhw wneud eu gwaith. Fe fyddai gennym ni hefyd lawer o greaduriaid llwglyd iawn hebddyn nhw, gan fod y gnocell werdd, y siglen lwyd, adar y to, drudwy, y dryw a’r robin goch i gyd yn hoffi bwydo arnyn nhw.