![Cowslip](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/third_light/SheepleasCowslips%2520-%252002.jpg?h=3d200a90&itok=PhXsiXj8)
Cowslip © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography
![Harts Tongue Fern](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2018-02/Harts_Tongue_Fern_CREDIT_Paul_Lane_compressed.jpg?h=7c602296&itok=HIcZjE7U)
Harts Tongue Fern_Paul Lane
![Pontcysyllte Aqueduct near Pisgah Quarry](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2020-05/Pontcysyllte_aqueduct_Adrian%20Pingstone.jpg?h=b52c549b&itok=GeKL50du)
Pontcysyllte Aqueduct near Pisgah Quarry © Adrian Pingstone
![Goldcrest](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/third_light/Goldcrest_c_Andy_Morffew.jpg?h=c9b04477&itok=nPyNh_MG)
Goldcrest © Andy Morffew
Gwarchodfa Natur Chwarel Pisgah
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Yr hafAm dan y warchodfa
Golygfeydd godidog, coed cysgodol
Yn wynebu tua’r gogledd ac wedi’i lleoli ar ochr dyffryn serth, mae gan yr hen chwarel galchfaen yma awyrgylch cysgodol, oer. O dan y coed, mae’r safle’n llawn rhedyn gwyrdd, ir, sy’n creu awyrgylch hudolus yn y lleoliad – bron fel bod yn ddwfn yng nghanol coetir llawer mwy. Ynn, helyg y geifr a sycamorwydd yw’r prif goed yn y canopi, gyda llawer o amrywiaeth yn yr isdyfiant gan greu amodau gwych ar gyfer adar y coetir. Mae’r coed yn agor i ddatgelu llannerch heulog o laswelltir, yn frith o dwmpathau morgrug melyn y ddôl a bwrlwm o liwiau blodau gwyllt fel briallu Mair sawrus, ffacbys a’r bengaled. Mae’r golygfeydd i lawr dros y dyffryn yn drawiadol ac maent yn cynnwys Safle Treftadaeth y Byd Camlas a Phont Ddŵr Pontcysyllte.
Teneuo a thorri;
Mae’r coetir yn cael ei adael i adfywio’n naturiol gan fwyaf, gyda rhywfaint o deneuo ar y coed i atal gorgysgodi’r llannerch. Mae’r glaswelltir yn cael ei dorri unwaith y flwyddyn ddiwedd yr haf pan mae’r holl flodau wedi bwrw had. Hefyd mae’r safle’n cael ei ddefnyddio gan blant ysgol lleol ar gyfer gweithgareddau ysgol y goedwig.
Cyfarwyddiadau
Mae’r safle oddeutu 5 milltir i’r dwyrain o Langollen. O’r A5 yng nghanol Froncysyllte, trowch i fyny’r allt ar Ffordd Alma. Ar ôl 300m, trowch i’r chwith ar fachdro sydyn i Lôn yr Ysgol, ac wedyn cymerwch yr ail ar y dde i Pleasant View.