
Allium triquetrum © Lisa Toth
Arddangosfa – Tu Hwnt i’r Ffin
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Camwch yn ôl mewn amser a darganfod sut daethpwyd â phlanhigion gardd i’r DU o bob rhan o’r byd, a sut gall gadael iddynt ddianc o erddi fod yn niweidiol i fyd natur hyd heddiw. Cyfle i brofi a dysgu drwy arddangosfa aml-gyfrwng ddifyr, gan gynnwys arteffactau hanesyddol a gweithgareddau hwyliog i'r teulu cyfan.
Darganfyddwch sut mae’r artist lleol, Manon Awst, wedi defnyddio cerflunwaith i ddehongli’r ffiniau mandyllog rhwng gerddi a’n cynefinoedd ehangach, gwylltach. Bydd yr arddangosfa’n dangos y camau hawdd y gall unrhyw arddwr eu cymryd i helpu i warchod ac adfer byd natur yng Ngogledd Cymru drwy atal planhigion gardd rhag dianc y tu hwnt i ffin eu gardd.
Mae hyn yn rhan o’n prosiect Dianc o Erddi yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy’n cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae'r arddangosfa yn ddwyieithog, Cymraeg a Saesneg.
Bwcio
Pris / rhodd
Anogir rhoddionGwybodaeth archebu ychwanegol
Dim angen archebu.Mae amseroedd agor Storiel i’w gweld yma: https://www.storiel.cymru/your-visit/