Bioblitz a hwyl i'r teulu

Two people with insect nets search for species in grass

Bryn Ifan Bioblitz June 2024 © Dilys Thompson Photography

Bioblitz a hwyl i'r teulu

Lleoliad:
Yn galw ar arbenigwyr, pobl frwdfrydig a dechreuwyr fel ei gilydd – rydyn ni angen eich help chi i ddarganfod pa rywogaethau sy’n galw’r warchodfa greigiog yma’n gartref.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Tafarn y Three Pigeons, Graigfechan, LL15 2EU ///panther.unopposed.deputy

Dyddiad

Time
10:00am - 4:00pm
A static map of Bioblitz a hwyl i'r teulu

Ynglŷn â'r digwyddiad

Bydd grŵp cadwraeth natur lleol, ‘Llanfair-Fyw’, a’ch Canolfan Cofnodion Lleol (LRC), sef ‘Cofnod’, yn ymuno â ni. Bydd gennym ni lawer o weithgareddau difyr i bob oed gymryd rhan ynddyn nhw yn ystod y dydd. Bydd hyn yn cynnwys teithiau cerdded dan arweiniad arbenigwyr (mae’r amserlen yn cael ei harddangos yn y maes parcio).

Bydd rhai gweithgareddau’n cael eu cynnal yn y maes parcio lle bydd y ‘ganolfan gofnodi’ wedi cael ei lleoli.

Os ydych chi’n bwriadu mentro i fyny i’r warchodfa, bydd y llwybrau troed wedi’u marcio’n glir fel eich bod chi’n gallu mynd a dod fel mynnoch chi drwy gydol y dydd. (Sylwch y bydd rhaid i chi groesi ffordd 20mya o’r maes parcio i gael mynediad i’r daith gerdded i fyny i’r warchodfa). Mae’r warchodfa’n serth ac mae’r llwybrau troed yn gallu mynd yn eithaf llithrig yn y glaw, felly rydyn ni wir yn eich annog chi i wisgo esgidiau a dillad addas ar gyfer y tywydd.

Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.

Bwcio

Pris / rhodd

Anogir rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Mae toiledau ar gael ym mhen draw maes parcio’r dafarn gyfagos.

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Mae croeso i chi ddod â'ch bwyd a'ch diod eich hun os ydych chi'n bwriadu aros am ychydig. Bydd biniau’n cael eu darparu yn y maes parcio.

Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd ac esgidiau addas ar gyfer cerdded ar dir creigiog.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Mae lle parcio ar gael ym maes parcio Tafarn y Three Pigeons. Gofynnwn i bawb dalu £1 am bob cerbyd yn y bocs gonestrwydd ger yr arwydd ar wal y dafarn.
image/svg+xmli

Facilities

Toiledau

Cysylltwch â ni