
© Photo by Kayla Farmer on Unsplash
Ffocws ar fyd natur: diwrnod arddangos opteg bywyd gwyllt
Gwarchodfa Natur Big Pool Wood,
GronantSir y Fflint, CH8 9JN
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymunwch â Swarovski a Cambrian Photography am ddiwrnod o arddangos eu cynhyrchion mwyaf newydd ac arloesol. Gan gynnwys y sbienddrych AX Visio clyfar arloesol gan Swarovski, sydd wedi’i gynllunio i wella eich profiad o wylio bywyd gwyllt mewn ffordd gwbl newydd.
Hefyd bydd Cambrian Photography yn arddangos detholiad o’u dyfeisiau delweddu thermal a’u camerâu bywyd gwyllt, sy’n berffaith ar gyfer tynnu llun byd natur mewn unrhyw olau neu amodau.
Bydd y digwyddiad cyffrous yma’n cael ei gefnogi gan wirfoddolwyr Big Pool Wood, a fydd ar gael drwy gydol y dydd i'ch tywys chi o amgylch y safle gwely cyrs a choetir hardd yma. Darganfyddwch hafan sy'n llawn blodau gwyllt, cân adar, a chyfleusterau sydd wedi'u dylunio'n feddylgar i’ch helpu chi i fod yn agosach at natur.
Os ydych chi'n adarwr profiadol, yn hoff o fyd natur, neu'n hoff o ffotograffiaeth - mae hwn yn ddiwrnod na ddylech chi ei golli!
Cofrestrwch ar y ddolen isod i roi syniad i ni o'r niferoedd ac i dderbyn diweddariadau cyn y diwrnod.