Dyma ni eto! Mae’r amser hwnnw o’r flwyddyn wedi cyrraedd pan mae’r tymheredd yn gostwng, y dydd yn byrhau ac mae ein swyddogion prosiect dewr ni’n cychwyn ar eu taith i ddod o hyd i gyfranogwyr ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Un o’r pethau grêt am Ein Glannau Gwyllt yw bod unrhyw berson ifanc yn gallu cymryd rhan, os ydych chi’n amgylcheddwr brwd sydd eisiau dilyn gyrfa mewn cadwraeth neu’n rhywun sy’n gwybod dim am fywyd gwyllt ond sy’n mwynhau’r teimlad o fod yn yr awyr agored – ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu eto yn amrywiaeth y grwpiau sydd gennym ni’n cymryd rhan eleni. Y newyddion mwyaf cyffrous hyd yma yw bod ein swyddog prosiect ni, Andy, ar ôl blynyddoedd o ymdrech i wneud hyn, wedi llwyddo i sefydlu grŵp ym mhob un ysgol uwchradd ar Ynys Môn – cyflawniad rhagorol! Mewn ardaloedd eraill yng Ngogledd Cymru, mae gennym ni hefyd grwpiau newydd yn ymuno â ni o Brosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl, Ysgol Tir Morfa, Gwasanaethau Ieuenctid Conwy, Y Dref Werdd ac Ysgol Glan Y Môor – i enwi dim ond rhai. Nid yw pob grŵp yn aros gyda ni drwy gydol y flwyddyn, felly os ydych chi’n gwybod am grŵp a fyddai’n hoffi cymryd rhan yn y prosiect rhwng nawr a haf 2020, cysylltwch. Anfonwch ymholiad i sylw Chris Baker (Rheolwr y Prosiect) ar chris.baker@northwaleswildlifetrust.org.uk