Gwarchodfa Natur Coed Crafnant
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Trwy gydol y flwyddynAm dan y warchodfa
Gwyllt a hynafol
Yn llawn planhigion cyntefig a choed derw hynafol, mae Coed Crafnant yn eich cysylltu chi â orffennol goediog Prydain. Mae blynyddoedd y cysgod parhaus y coed hyn wedi creu amodau perffaith i fwsoglau, cennau a rhedyn ffynnu – yn wir, mae rhywogaethau wedi’u cofnodi yma oedd wedi cael eu hystyried fel rhai wedi diflannu’n genedlaethol. Mae’r coetir derw Atlantaidd gwyllt a hynafol hwn ar lethrau serth ac wedi’i rannu’n derasau yn fras, a phob un â’i ficro-hinsawdd a’i drigolion ei hun. Bydd ymweliad yn ystod y gwanwyn a’r haf yn eich gwobrwyo chi gyda chyfoeth o flodau gwyllt ac adar yn nythu, ond bydd llonyddwch gwyllt y cwm anghysbell yma’n hoelio eich sylw ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Adfywio naturiol
Prif ffocws y gwaith ar y safle hwn yw cynnal ffiniau’r warchodfa er mwyn cadw anifeiliaid pori fel defaid a geifr gwyllt allan. Mae eithrio’r anifeiliaid pori yma’n caniatáu i brosesau naturiol adfywiad y coetir ddigwydd. Mae clirio dethol yn helpu i greu patrwm o newid yn y llennyrch a choetir iach gyda strwythur oedran amrywiol, sy’n arwain at gynefin hynod fioamrywiol. I helpu i atal dirywiad poblogaethau’r DU o’r gwybedog brith, mae 95 o focsys nythu wedi cael eu gosod o amgylch y coetir.
Oeddech chi'n gwybod?
Esblygodd planhigion mewn dŵr gyntaf ac mae angen amgylchedd gwlyb iawn ar lawer o'n planhigion mwyaf cyntefig - fel mwsoglau a llysiau'r afu - er mwyn atgenhedlu. Mae eu strwythurau dail yn dal hylif, gan greu microhinsawdd dyfrllyd eu hunain.
Cyfarwyddiadau
Trowch oddi ar yr A496 wrth y dafarn yn Llanbedr. Ewch ymlaen am Gwm Bychan am 2.75km nes cyrraedd Pen-y-Bont (SH 607 280). Ar gyfer mynedfa ddeheuol y warchodfa (mynediad ar droed yn unig, dim ceir), trowch yn sydyn i’r dde dros bont a thrwy giât, gan ddilyn y trac garw. Trowch i’r dde am Y Fron. Ewch ymlaen i fyny’r allt drwy ail giât gan ddal i’r chwith, ac wedyn mynd ymlaen am 200m. Mynediad i'r warchodfa trwy giât drws nesaf i arwydd y warchodfa (SH 611 276). Ar gyfer y fynedfa ogleddol, ewch ymlaen heibio i Ben-y-Bont am 1.5km arall. Parciwch ar ochr y ffordd wrth giât yn SH 616 289. Ewch drwy’r giât ar droed, dilyn y trac dros y bont a mynd heibio i’r hen ysgubor ar y dde i chi, gan groesi camfa. Rhaid dal i’r dde ar y trac nes cyrraedd mynedfa ac arwydd y warchodfa