Tra mae grwn y combein, y tractor a’r byrnwr yn parhau drwy’r dydd a ddim yn stopio efallai tan ymhell y tu hwnt i’r gwyll, rydyn ni’n hynod ddiolchgar am yr amrywiaeth eang o fywyd gwyllt mae’r tyfwyr ymroddedig wedi ei gefnogi ar eu ffermydd: o löyn byw y fritheg arian a gwenyn turio i lygod pengrwn y maes a llygod eraill, a thylluanod gwynion a chudyllod.
Nid dim ond stiwardiaid y tir yw ffermwyr Jordans, yn creu bwyd i fwydo cymunedau cyfan; maen nhw’n geidwaid byd natur, gan greu ecosystemau bywiog sy'n cynnal amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt. Gyda'i gilydd mae'r tyfwyr yma’n rheoli mwy na 4,200 o hectarau o dir ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys tua 776 o gilometrau o wrychoedd a 548 o hectarau o ymylon caeau. Mae'r tyfwyr yma’n enghraifft o'r hyn y mae ffermio mewn cytgord gyda byd natur yn ei olygu.
Wrth galon y bartneriaeth yma mae ymrwymiad i arferion ffermio cynaliadwy sydd o fudd i’r tir ac yn adfer bywyd gwyllt. Mae’r tyfwyr, gydag arweiniad eu cynghorwyr fferm lleol yn yr Ymddiriedolaethau Natur, yn gweithio’n ddiflino i greu a chynnal gwrychoedd, sefydlu ymylon blodau gwyllt ac adfer dyfrffyrdd - gyda phob un ohonynt yn hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt ac yn cyfrannu at gyflwr yr amgylchedd a llwyddiant eu ffermydd.