Mythau a llên gwerin Nadoligaidd

Mythau a llên gwerin Nadoligaidd

Robin © Mark Hamblin/2020VISION

Mae Sophie Baker, swyddog cyfathrebu gydag Ymddiriedolaeth Natur Swydd Bedford, Swydd Caergrawnt a Swydd Northampton, yn edrych ar ein rhywogaethau brodorol ni sydd wedi dod yn symbolau diwylliannol parhaus ym mythau a llên gwerin yr ŵyl.

Mae tymor y Nadolig yn gyfnod cyfoethog ar gyfer traddodiad, adrodd straeon a llên gwerin. Cyfnod pan mae gwahanol systemau cred a thraddodiadau’n gwrthdaro ac yn cyfuno yn weithredoedd symbolaidd rydyn ni’n cymryd rhan ynddyn nhw heb feddwl ddwywaith. Ar adeg o'r flwyddyn pan mae'r dyddiau ar eu byrraf a'r awyr agored yn lle llai deniadol i fod ynddo, mae llawer o'r traddodiadau Nadoligaidd yma’n ymwneud â'n bywyd gwyllt ni.

O’r Robin goch i’r gelynnen, o uchelwydd i dorchau, mae’n amser i gofleidio ein rhywogaethau brodorol ni a mwynhau’r holl straeon, mythau a chwedlau rydyn ni fel pobl wedi’u plethu o’u cwmpas nhw. Oes gan eich ardal leol chi neu eich teulu draddodiad penodol?

Addurno bytholwyrdd

Mae addurno ein tai gyda gwyrdd yr awyr agored, a choch llachar yr aeron, wedi'i wreiddio mor ddwfn yn ein hymwybyddiaeth genedlaethol ni fel nad yw lle dechreuodd y cyfan wedi'i gofnodi i raddau helaeth.

Cafodd y garol ‘Deck the Halls with Boughs of Holly’ ei chofnodi’n wreiddiol yng Nghymru yn yr 16eg ganrif. Mae adroddiadau o'r 1400au sy'n disgrifio tai yn cael eu haddurno gydag eiddew, llawrwydd a gwyrddni arall adeg y Nadolig. Ond dim ond y cofnodion cyntaf o bethau o’r fath yw’r rhain, heb siarad am wir darddiad, sy’n mynd yn llawer dyfnach, rwy’n sicr.

Mewn llawer o draddodiadau, mae gwyrddni yn cynrychioli adnewyddiad a'r addewid y bydd popeth gwyrdd yn dychwelyd yn y gwanwyn. Mae gan rai rhywogaethau ystyron penodol. Daethpwyd â chelyn dan do i gadw tylwyth teg dieflig o’r cartref adeg heuldro’r gaeaf, neu i gynrychioli Brenin y Celyn o’r traddodiad Celtaidd, a oedd yn llywodraethu’r flwyddyn tan heuldro’r gaeaf, pan oedd Brenin y Derw’n cymryd yr awenau. I Gristnogion, gall gyfleu’r goron ddrain a wisgodd Iesu pan gafodd ei groeshoelio. Ac wrth gwrs, mae ei ddail cwyraidd, sgleiniog a’i aeron coch llachar yn ffordd hyfryd o ddod â lliwiau’r Nadolig i mewn i'ch cartref.

“Heigh ho! sing heigh ho! unto the green holly:
Most friendship is feigning, most loving mere folly:
Then, heigh ho, the holly!
This life is most jolly.”

~ o ‘As You Like It’ gan William Shakespeare

Holly

©Ross Hoddinott/2020VISION

Cusanu o dan yr uchelwydd

Mae’r traddodiad o gusanu dan sbrigyn o uchelwydd adeg y Nadolig yn dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn-Gristnogol, er nad oes consensws ynghylch pryd yn union mae’r tarddiad. Mae'r planhigyn yn ymddangos yn amrywiol mewn mytholegau Llychlynaidd a Groegaidd, lle cafodd ei ddefnyddio fel allwedd i wlad y meirw a hefyd fel yr unig beth fyddai'n lladd y duw Baldur the Beautiful - a gafodd hefyd ei alltudio, gan fam Baldur, sef Frigg, i frig y goeden. I'r Derwyddon roedd iddo ystyr dwfn, yn sefyll dros anfarwoldeb oherwydd ei fod yn ffrwytho yn y gaeaf ac yn cael ei ddefnyddio mewn meddygaeth a defodau eraill.

O ran ei wreiddiau rhamantus, mae hyn yn fwyaf tebygol o ddod o'r dirgelwch ynghylch ei atgynhyrchu gan arwain at ei sefydlu fel symbol o ffrwythlondeb, ar y cyd â thraddodiad poblogaidd y Tuduriaid o gusanu canghennau, oedd yn cael eu hongian i groesawu gwesteion i'r cartref. Roeddent yn cael eu haddurno ag unrhyw ddeiliach gwyrdd ac eitemau lliwgar fel orennau, aeron ac addurniadau papur, ac yn draddodiadol gallai dynion eu tynnu oddi ar y gangen ac wedyn cusanu menyw ar ei boch.

O ran ei wreiddiau rhamantus, mae hyn yn fwyaf tebygol o ddod o'r dirgelwch ynghylch ei atgynhyrchu gan arwain at ei sefydlu fel symbol o ffrwythlondeb, ar y cyd â thraddodiad poblogaidd y Tuduriaid o gusanu canghennau, oedd yn cael eu hongian i groesawu gwesteion i'r cartref. Roeddent yn cael eu haddurno ag unrhyw ddeiliach gwyrdd ac eitemau lliwgar fel orennau, aeron ac addurniadau papur, ac yn draddodiadol gallai dynion eu tynnu oddi ar y gangen ac wedyn cusanu menyw ar ei boch.

WildNet - Zsuzsanna Bird

Torchau

Mae torchau sy’n cael eu gwneud o wyrddni wedi bod o gwmpas ers i'r Rhufeiniaid addurno enillwyr Olympaidd gyda nhw o leiaf, ond dim ond mor bell yn ôl â'r Lutheriaid yn yr Almaen yn yr 16eg ganrif, a oedd yn eu defnyddio i ddathlu dyfodiad yr ŵyl, y mae posib olrhain eu defnydd fel eitemau addurniadol.

Yn y DU, mae gennym ni nifer o blanhigion bytholwyrdd brodorol sydd i gyd yn gweithio’n dda mewn torch gartref: celyn, eiddew, yw, pren bocs ac eithin. Mae gan bob un ohonynt eu bywyd gwyllt brodorol eu hunain sy’n elwa o’u haeron ar yr adeg yma o’r flwyddyn, ac ni fydd ots gan y rhan fwyaf ohonyn nhw eich bod yn mynd â sbrigyn neu ddau dan do i addurno eich tŷ. Ond cofiwch fod coed yw yn wenwynig, felly peidiwch â’u defnyddio mewn mannau lle mae unrhyw berygl iddyn nhw gael eu bwyta.

wreath

Robin goch

Yn un o’n hadar amlycaf ni yn y gaeaf, yn canu’n uchel drwy’r holl ddyddiau tywyllaf, mae’n hawdd gweld sut mae’r rhywogaeth hyfryd yma wedi dod yn rhan o’n dathliadau Nadoligaidd ni. Mae’r adar gwryw a benyw (ond nid y rhai ifanc) wedi'u haddurno â phlu coch llachar ac mae'r ddau yn canu i amddiffyn eu tiriogaethau eu hunain, gan alw cadoediad yn ystod y tymor magu yn unig.

Mae llu o fythau wedi datblygu o amgylch y Robin goch ac mae rhai, fel y cysylltiad â gwisgoedd coch postmyn Fictoraidd a oedd yn dosbarthu cardiau Nadolig, yn arbennig o Nadoligaidd. Mae posib eu cysylltu'n ôl hefyd â mytholeg Geltaidd Brenin y Celyn a Brenin y Derw, oedd yn cael eu cynrychioli hefyd, yn eu trefn, gan y dryw a'r Robin goch. Dywedwyd bod y brenhinoedd yma’n brwydro bob blwyddyn ar heuldro’r haf a’r gaeaf, gyda’r Robin goch yn llywodraethu ar yr amser tywyllaf o’r flwyddyn – sydd hefyd yn ymddangos fel ymgais i egluro pam rydym yn gweld cymaint o’r adar yma dros y gaeaf.

Ac yn olaf, gan gadarnhau’r aderyn yma fel un o hoelion wyth yr ŵyl, mae chwedl hefyd sy’n gysylltiedig â stori’r Nadolig Cristnogol lle mae’r Robin goch yn ysgwyd ei adenydd i gadw tân yn fyw i Mair wrth iddi esgor, i sicrhau nad yw’r tân yn diffodd, gan ddal marworyn ar ei frest, wnaeth droi ei frest yn goch – a sicrhau clod iddo gan Mair fel aderyn caredig.

Robin

©Mark Hamblin/2020VISION

Os ydych chi’n dathlu’r Nadolig, heuldro’r gaeaf neu unrhyw fath o ŵyl – neu gyfuniad o’r holl bethau yma – mae cofleidio ein fflora a’n ffawna brodorol ni, a dod â’r tu allan i mewn, yn rhan annatod o gymaint o’r hyn rydyn ni’n ei gymryd yn ganiataol yr adeg yma o’r flwyddyn. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gofalu am eich bywyd gwyllt lleol, a’r cyfan sydd ganddo i’w gynnig i ni, drwy fwydo’r Robin goch a darparu llefydd iddo nythu, tyfu coed brodorol yn eich gwrychoedd, a bod yn aelod o’ch Ymddiriedolaeth Natur leol.