Ceirw Gwyllt: Natur Ar Ei Mwyaf Nerthol

Ceirw Gwyllt: Natur Ar Ei Mwyaf Nerthol

Red deer stags © Bertie Gregory/2020VISION

Ceirw gwyllt yw rhai o famaliaid mwyaf eiconig cefn gwlad.

Fe all y creaduriaid hardd yma, sy'n aml yn anodd dod o hyd iddyn nhw ac wedi'u cuddliwio, ymddangos fel cysgod byrhoedlog yn y goedwig, gan ddiflannu cyn i chi gael mwy na chipolwg. Ond, os ydych chi'n amyneddgar ac yn llonydd, efallai y byddwch chi'n clywed crensian meddal y dail o dan draed. I lawer, does dim byd tebyg i’r wefr o weld carw, yn wyllt ac yn rhydd, wrth iddo lamu’n osgeiddig i’r isdyfiant.

Mae'r DU yn gartref i chwe rhywogaeth o geirw. Mae ceirw coch ac iyrchod yn wirioneddol frodorol, cyflwynwyd danasod gan y Normaniaid, a dihangodd y tair rhywogaeth arall - ceirw sica, mwntjac a dŵr Tsieineaidd - o barciau ceirw ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif.

Carw coch

Mae mamal tir mwyaf y DU, y carw coch, wedi bod yn bresennol yma ers yr Oes Iâ ddiwethaf. Gyda'u safiad mawreddog a'u corff cyhyrog, maen nhw’n eiconig yn Ucheldiroedd yr Alban gyda ffwr browngoch a’r gwrywod â chyrn aml-bwynt mwy na metr o led. Yn ystod y tymor rhidio pryd mae’r gwrywod yn cystadlu am fenywod, mae rhuo dwfn y gwrywod, eu harogl mwsglyd llethol a gwrthdaro eu cyrn yn odidog - un o olygfeydd mwyaf dramatig byd natur.

Red deer

©Gillian Day

Iwrch

Mae iyrchod yn llai ac yn geinach, gyda llygaid mawr, tywyll, ymarweddiad tyner a ffwr haf browngoch sy'n troi'n llwydfrown yn y gaeaf. Yn hyblyg ac yn eang, amcangyfrifir bod poblogaeth yr iwrch tua miliwn a’i fod yn ffynnu ar draws y rhan fwyaf o’r wlad, yn enwedig mewn coetiroedd.

Danas

O faint canolig gyda smotiau gwyn brith, mae danasod yn edrych bron fel ceirw o stori dylwyth teg. Mae gan y gwrywod gyrn siâp coed palmwydd ac maen nhw’n griddfan yn ddwfn wrth ridio, ond mae’r benywod a’r danasod ifanc yn brefu’n uchel a main. Mae danasod i'w gweld yn gyffredin mewn parcdiroedd a choetiroedd, yn enwedig yn ne Lloegr, ac maen nhw'n atgoffa rhywun o'r carw cartŵn hoffus, Bambi.

Fallow deer

©Gillian Day

Carw sica

Yn wreiddiol o Japan, mae’r carw sica yn edrych yn fygythiol gyda gwddw trwchus a chyrn mawr. Yn llai na’r carw coch, mae smotiau ar ei ffwr tywyllach yn aml. Maen nhw i’w gweld yn bennaf yn yr Alban, gyda phoblogaethau gwasgaredig yn Cumbria, Dorset, New Forest a Gogledd Iwerddon. Rydyn ni’n gwybod bod ceirw sica yn croesrywio gyda'n ceirw coch brodorol ni.

A sika deer stag, with white spots on its rich red-brown fur, stands amongst the pink flowers of heather, with silver birches in the background

Sika deer stag © Ross Hoddinott/2020VISION

Carw mwntjac

Y rhywogaeth leiaf o geirw yn y DU, mae’r carw mwntjac yn garw byrdew, maint ci gyda chyrn byr a dannedd tebyg i ysgithrau. Yn cael eu hadnabod fel "ceirw cyfarth" oherwydd eu cri uchel, tebyg i gi, maen nhw wedi dod yn gyffredin yn ne ddwyrain Lloegr. Mae ceirw mwntjac yn borwyr nodedig, yn bwydo ar eginblanhigion, perlysiau a mieri, gan gyfrannu at ddirywiad rhywogaethau fel yr eos oherwydd eu bod yn clirio isdyfiant y coetir.

Muntjac deer

©Amy Lewis

Carw dŵr Tsieineaidd

Mae'r carw byrdew yma, sy’n debyg i dedi bêr, yn wahanol am nad oes ganddo gyrn a hefyd yr ysgithrau amlwg tebyg i gŵn. Mae ei boblogaeth yn llai na cheirw eraill ac maen nhw i’w gweld yn bennaf yn Nwyrain Anglia a Swydd Bedford. Mae ceirw dŵr Tsieineaidd yn byw mewn gwlybdiroedd a chorsydd.

water deer

Donald Sutherland

Poblogaethau ceirw sy'n tyfu

Yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae poblogaethau ceirw’r DU wedi cynyddu’n sylweddol oherwydd absenoldeb ysglyfaethwyr naturiol a gallu i addasu rhywogaethau fel iyrchod a cheirw mwntjac. Mae’r amcangyfrifon presennol yn awgrymu y gallai fod cymaint â dwy filiwn o geirw. Er ei bod yn bleser yn aml gweld un, mae eu niferoedd cynyddol yn peri heriau. Mae eu harchwaeth am eginblanhigion ffres a phlanhigion ifanc yn bygwth byd natur drwy fwyta'r union fflora sy'n cynnal cymaint o rywogaethau eraill. Yn ogystal, mae ceirw’n tynnu rhisgl oddi ar goed, gan achosi difrod sylweddol i goetiroedd a choed sydd wedi’u plannu o’r newydd.

Mae adroddiadau gan reolwyr tir yn disgrifio’r frwydr i ymdopi â gyrroedd mawr o geirw sy’n pori drwy amgylcheddau sydd eisoes yn fregus ac yn bygwth ecosystemau sydd wedi’u hadfer yn ofalus. Felly er bod ceirw’n ychwanegu harddwch at y dirwedd, mae eu niferoedd enfawr yn effeithio ar y cydbwysedd ym myd natur.

 

Byw gyda cheirw

Mae rheolwyr tir yn defnyddio strategaethau amrywiol i warchod coetiroedd rhag pori gan geirw. Mae ffensys uchel, cadarn, tua dau fetr o uchder fel rheol, yn effeithiol ond yn gostus. Felly mae ffensys fel rheol yn cael eu cadw ar gyfer ardaloedd cadwraeth blaenoriaeth uchel. Gall gwarchodwyr coed heb blastig warchod coed ifanc unigol, gan roi cyfle iddyn nhw dyfu heb gael eu tynnu gan geirw. Yn ogystal, mae rhai rheolwyr tir yn plannu rhywogaethau sy'n llai dymunol i geirw, fel llwyni pigog, eithin neu fieri, i ffurfio rhwystrau naturiol. Yn yr Ymddiriedolaethau Natur, rydyn ni’n eiriol dros reolaeth sy'n cofleidio atebion naturiol ar gyfer gwella byd natur ar raddfa tirwedd.

 

Cymryd agwedd gytbwys

Mae ceirw yn rhan hanfodol o’n treftadaeth naturiol ni ac yn ychwanegu at harddwch ein cefn gwlad. Ond mae cynnal cydbwysedd yn allweddol. Drwy gofleidio atebion naturiol gallwn sicrhau bod ein coetiroedd a’n cefn gwlad ni’n aros yn iach, yn ffynnu a bod ceirw’n parhau i’n cyfareddu ni gyda’u presenoldeb yn y dirwedd.