Adar ar grwydr

Adar ar grwydr

Redwing © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

I lawer o wylwyr adar, yr hydref yw’r amser mwyaf cyffrous o’r flwyddyn. Ond am beth maen nhw mor gyffrous?

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn eithaf cyfarwydd â'r syniad o fudo. Mae anifeiliaid yn gwneud siwrneiau epig sy’n gallu croesi gwledydd a chyfandiroedd hyd yn oed. Mae llawer o'r rhain yn dymhorol, wedi'u hysgogi gan newidiadau mewn tywydd, tymheredd a faint o olau dydd rydyn ni’n ei gael. Mae pob math o anifeiliaid yn mudo, o bryfed hofran i forfilod, ond adar sy'n dod â mudo yn fyw. Drwyddyn nhw, fe allwn ni weld y mudo ar waith, yn datblygu yn amlwg yn yr awyr uwch ein pen.

Mae adar amrywiol ar grwydr drwy gydol y flwyddyn, ond y gwanwyn a'r hydref sy'n dod â'r newid mwyaf. Yn yr hydref, mae ein hymwelwyr haf ni’n gadael, gan fynd tua'r de i chwilio am hinsawdd gynhesach. Mae crwydriaid y gaeaf yn cymryd eu lle, gan ffoi rhag tywydd garw gogledd a dwyrain Ewrop.

A fieldfare in a hawthorn, surrounded by plump red berries

Hundreds of thousands of fieldfares migrate to the British Isles in autumn © Chris Gomersall/2020VISION

Mudo ar waith

Mae'r hydref yn amser gwych i chwilio am adar ar grwydr. Mae adar mudo yn dilyn nodweddion yn y dirwedd yn rheolaidd, gan roi cyfle i chi sefyll a syllu mewn syndod wrth i heidiau hedfan uwch eich pen. Mae arfordiroedd yn aml yn cynhyrchu symudiadau ysblennydd gan nad yw adar eisiau hedfan uwchben y môr, felly maen nhw’n hedfan ar hyd ymyl y tir. Ond mae adar yn gallu dilyn afonydd hefyd, mynd drwy ddyffrynnoedd, neu ar hyd y ffiniau rhwng gwahanol gynefinoedd.

Yr enw ar y grefft o wylio a chofnodi’r symudiadau hyn yw mudo gweladwy, neu ‘vismig’ yn Saesneg. Gyda llecyn gwylio a thywydd addas, mae cyfle i fwynhau vismig yn unrhyw le bron - gan gynnwys yng nghanol trefi a dinasoedd! Cysylltwch â'ch grŵp gwylio adar lleol, neu wneud ychydig o waith ymchwil, ac mae'n debyg y gallwch chi ddod o hyd i safle dibynadwy yn eich ardal chi.

A flock of 11 pink-footed geese flying in formation

Noisy flocks of pink-footed geese are a celebrated sound of autumn © David Tipling/2020VISION

Ym mis Hydref mae heidiau o bincod a brychod yn cyrraedd o'r cyfandir. Mae hwyaid, gwyddau ac elyrch ar symud hefyd. Maen nhw’n mudo mewn grwpiau swnllyd, gan alw ar ei gilydd yn gyson i sicrhau eu bod yn aros yn eu haid. Y galw yma sy’n dweud wrthyn ni beth ydyn nhw yn aml iawn. Gwrandewch am ‘inc inc’ y gwyddau troedbinc neu utgyrn elyrch y gogledd, gan dynnu sylw at yr adar yn hedfan yn uchel uwchben mewn heidiau siâp v.

Os na allwch chi ddod o hyd i lecyn gwylio i fwynhau’r mudo ar waith, gallwch weld y canlyniadau'n datblygu'n raddol yn y dirwedd o'ch cwmpas chi. Mae llynnoedd a chronfeydd dŵr yn dechrau llenwi gyda chwiwellod a chorhwyaid. Mae pincod y mynydd yn dechrau ymddangos ymhlith y ji-bincod mewn coetiroedd. Mae'r coch dan adain a’r socan eira yn ymuno gyda’r mwyeilch lleol gan dynnu aeron o lwyni. Fe all pob diwrnod gynnig rhywbeth newydd.

A flock of wigeon on a shallow pool, with mist obscuring the far shore

As autumn progresses, wetlands fill with ducks, geese and swans. Wigeon flock © Nick Upton/2020VISION

Crwydriaid cyfareddol

Mae gweld mudo ar waith bob amser yn wefr, ond mae gan rai gwylwyr adar chwaeth fwy prin. Maen nhw’n mynd ati i ddod o hyd i adar na ddylech chi fyth eu gweld yn agos at Ynysoedd Prydain. Maen nhw’n cael eu hadnabod fel adar ‘prin’ neu grwydriaid. Mae’r crwydriaid yma’n cael eu graddio yn aml ar raddfa, o adar ‘prin’, y gellir eu disgwyl mewn niferoedd cymedrol bob blwyddyn bron, i’r ‘megas’, y bu disgwyl mawr amdanyn nhw – adar sydd ond wedi’u cofnodi yma lond dwrn o weithiau efallai.

A first winter red-breasted flycatcer perched on plant stem. It's a brown bird with paler underparts, a large dark eye and a black tail with white sides

Red-breasted flycatchers breed in Scandinavia and Eastern/Central Europe and winter in Asia, but most autumns see dozens recorded in Britain © Tom Hibbert

Yn y bôn, adar sy'n cyrraedd yma ac wedi teithio allan o'u hystod arferol yw crwydriaid. Fe aeth rhywbeth o'i le yn ystod eu mudo, gan achosi iddyn nhw gyrraedd y DU yn ddamweiniol. Gallai fod yn effaith y tywydd, fel gwyntoedd cryfion yn eu chwythu nhw oddi ar eu llwybr. Neu gallai fod yn broblem gyda chwmpawd mewnol yr aderyn ei hun - neu gyfuniad o'r ddau. Yn yr hydref, mae gwyntoedd dwyreiniol cryf yn dod ag ymwelwyr anarferol yma yn aml o Sgandinafia a Siberia. Yn y cyfamser, gall stormydd sy'n croesi'r Iwerydd gludo crwydriaid yr holl ffordd o Ogledd America.

Un o grwydriaid mwyaf cyffredin yr hydref yw'r telor aelfelyn. Maen nhw’n nythu yng nghoedwigoedd taiga Siberia ac yn treulio'r gaeaf yn ne ddwyrain Asia fel rheol. Does dim angen i chi edrych ar fap i sylweddoli na ddylai hynny ddod â nhw yn agos at y DU! Ond bob hydref, mae posib cofnodi cannoedd ar draws Ynysoedd Prydain, yn enwedig ar yr arfordir dwyreiniol. Maen nhw wedi dod mor gyffredin nes bod rhai pobl yn meddwl efallai eu bod nhw’n sefydlu llwybr mudo newydd, gan dreulio'r gaeaf rywle yn Affrica.

Mae siawns bob amser y bydd aderyn eithriadol brin yn ymddangos yn yr hydref. Y siawns fechan honno sy’n gwneud i lawer o wylwyr adar godi o’r gwely ymhell cyn y wawr, i chwilio’r llwyni yn y gobaith o weld ‘mega’.

Darganfod mwy