Mae’r amrywiaeth o chwilod yn y DU yn syfrdanol – tua 4,000 o rywogaethau gwahanol! Maen nhw'n gwneud llawer o swyddi pwysig, o symud tail i beillio planhigion. Mae rhai yn helwyr cyflym ac ystwyth, eraill yn ymlwybro o un lle i’r llall yn eu hamser eu hunain. Gallant fod yn ddu neu'n lliwgar, yn blaen neu'n batrymog. Os ydych chi’n hoff iawn o chwilod, mae rhywbeth newydd i'w ddarganfod bob amser.
Mae’n debyg mai buchod coch cwta yw ein chwilod mwyaf cyfarwydd ni – a hefyd rhai o’r rhai mwyaf poblogaidd. Maen nhw’n cael eu hadnabod fel ffrind y garddwr, gan fod llawer yn hela’r affidau sy’n bwydo ar ein planhigion gwerthfawr ni o bryd i’w gilydd. Y ddelwedd glasurol o fuwch goch gota yw'r un 7 smotyn, gyda saith smotyn du ar draws ei chefn coch llachar. Ond mae tua 46 o rywogaethau o fuchod coch cwta yn y DU, gydag amrywiaeth o liwiau a phatrymau gwahanol.