Dros y blynyddoedd rydw i wedi cael ychydig o awgrymiadau ar gyfer tynnu lluniau madarch a ffyngau eraill felly fe wnes i feddwl y byddwn i’n rhannu rhai cyflym a hawdd gyda chi.Discover the Wild
Tynnu lluniau o ffyngau
Y llun ‘tlws’
Er y gallen ni dreulio oriau yn trafod manteision ac anfanteision gwahanol gamerâu, mae rhai technegau sy'n gwella'ch lluniau chi, dim ots beth rydych chi'n ei ddefnyddio. Mae'r cyntaf yn eithaf syml, ewch i lawr i lefel y sbesimen - mae edrych i lawr ar gap yn gallu bod yn ddiddorol, ond dydi hynny ddim yn dangos y sbesimen cyfan. Drwy fynd i lawr yn isel, gorwedd ar y llawr hyd yn oed, rydych chi'n cael persbectif llawer agosach sy’n gallu creu naws wahanol i'r llun. Os ewch chi â rhywbeth i orwedd arno, fe allwch chi gadw'n sych wrth dynnu’r llun hefyd.
Bydded goleuni
Yr ail beth i'w gadw mewn cof ydi bod madarch yn taflu eu cysgodion eu hunain. Yn y bôn, ymbarelau ydyn nhw ac mae’r ochr isaf yn gallu bod yn dywyll iawn a thop y capiau’n gallu bod mewn golau llachar. Fe allwch chi brynu offer fflach a goleuo drud ond rydw i wedi darganfod bod eitem syml o’r gegin yn gallu goleuo ochr isaf madarch yn dda iawn a dim ond ychydig geiniogau mae’n ei gostio i'w ddefnyddio. Ffoil. Ie ffoil. Mae ychydig o ddarnau o ffoil wedi’u gosod ychydig allan o'r saethiad ar ongl i fownsio golau o dan y madarch yn gallu gwneud i'r llun edrych yn dda iawn. Mae posib plygu a mowldio ffoil hefyd i gael yr onglau sgwâr, mae’n plygu yn eich poced ac fe allwch chi gael ffoil arian ar gyfer naws fwy naturiol neu ffoil aur i roi cynhesrwydd i'r llun.
Dyfal Donc a Dyr y Garreg
Yr elfen anoddaf o ran cael lluniau tlws o fadarch ydi dod o hyd i sbesimenau heb eu bwyta gan wlithod neu gael eu cnoi gan y rhan fwyaf o bethau yn y coetir. Rydw i wedi gweld bod parciau, mynwentydd, cyrsiau golff a gerddi mwy yn llefydd gwych i ddod o hyd i sbesimenau perffaith. Pan welwch chi ynysoedd o goed wedi'u hamgylchynu gan lawer o laswellt (mewn mynwent neu ar gwrs golff er enghraifft), fe welwch chi bod gwlithod yn llai tebygol o groesi'r ehangder mwy o laswellt, felly mae'r madarch sy'n tyfu gyda'r coed mewn cyflwr da iawn fel arfer. Dydi hyn ddim yn golygu na allwch chi ddod o hyd i sbesimenau bendigedig yn y coetiroedd, ond mae lefel fy llwyddiant i o ran tynnu lluniau yn sicr yn is mewn coetiroedd na ‘pharcdir’. Mewn coetir mae pawb a phopeth fel arfer yn bwyta'r ffyngau yn y diwedd - gan gynnwys ffyngau eraill!
Mae’r tri chyngor syml yma’n iawn ar gyfer tynnu lluniau ‘tlws’, ond beth am dynnu lluniau er mwyn i chi allu eu hadnabod gartref?
Y llun adnabod
Wrth adnabod ffyngau, mae angen i ni weld y sbesimen cyfan gan fod pob nodwedd yn bwysig. Felly, rydw i'n aml yn cario darn gwyn o gardfwrdd hefo fi er mwyn tynnu llun y sbesimenau arno (fel hyn rydw i’n gallu eu cymharu â rhywogaethau eraill rydw i wedi tynnu eu llun ond fe allwch chi eu gosod nhw ar y ddaear). Mae'r cap yn bwysig, ond mae angen llun proffil hefyd, llun yn dangos y tagellau, weithiau'r cnawd, felly mae sut mae’n edrych yn ei hanner yn bwysig hefyd. Mae tynnu llun o'r cap oddi uchod fel tynnu llun o ben rhywun a gofyn pwy ydi hwn. Gorau po fwyaf o fanylion sydd gennych chi. Yn ogystal â’r gwahanol onglau, gwnewch nodyn o'r cynefin a'r coed gerllaw a hefyd nodweddion eraill fel a oes ganddo unrhyw arogl arbennig. Bydd y rhain i gyd gyda'i gilydd yn eich helpu chi i adnabod eich darganfyddiadau yn nes ymlaen.
Ond y prif beth i'w gofio ydi mwynhau eich hun, mae'r prif dymor madarch yn digwydd ar hyn o bryd felly ewch allan a mwynhau’r cyrff ffrwytho hynod ddiddorol yma tra gallwch chi.