Wythnos Rhywogaethau Ymledol: 20fed – 26ain Mai 2024

Wythnos Rhywogaethau Ymledol: 20fed – 26ain Mai 2024

© Wye Valley AONB

Bydd yn Wythnos Rhywogaethau Ymledol yn fuan! Darganfyddwch sut gallwch chi gymryd rhan a helpu i atal lledaeniad rhywogaethau ymledol.

Beth yw Wythnos Rhywogaethau Ymledol?

Mae’r Wythnos Rhywogaethau Ymledol yn ddigwyddiad cenedlaethol, blynyddol sy’n cael ei arwain gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol a dathlu gweithredu i atal eu lledaeniad. 

Beth yw rhywogaethau ymledol? 

Mae rhywogaethau ymledol yn rhywogaethau estron sydd wedi'u cyflwyno'n fwriadol neu'n anfwriadol y tu hwnt i'w hamrediad brodorol gan bobl.

Yn bwysig, mae eu lledaeniad yn bygwth bioamrywiaeth frodorol a gall achosi niwed i'r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd, a'r ffordd rydyn ni’n byw.

Edrychwch a dysgwch am rai rhywogaethau ymledol cyffredin yma!

Sut maen nhw'n cael eu lledaenu?

Unwaith maen nhw’n bresennol yn yr amgylchedd, gall rhywogaethau ymledol ledaenu'n naturiol neu drwy fodau dynol!

Gall pob un ohonom ni ledaenu rhywogaethau ymledol yn hawdd ac yn ddamweiniol mewn llawer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys yn ein gweithgareddau bob dydd, fel mynd am dro, garddio, neu bysgota.

Dysgwch fwy am sut gallwch chi Stopio Lledaeniad rhywogaethau ymledol ar ein tudalen we ni am fioddiogelwch!

Demonstration of how seeds can be easily transported by humans e.g. on footwear

© WaREN - NWWT

Pam maen nhw'n broblem?

Mae rhywogaethau ymledol wedi’u nodi fel un o’r pum prif sbardun i golli bioamrywiaeth yn fyd-eang!

The Intergovenmental Science-Policy Platform on Biodiversity and Ecosystem Services (IPBES) top 5 ecological stressors

Gallant gael llawer o effeithiau negyddol ar nature ac ein hamgylchedd. Er enghraifft, gallant gystadlu am adnoddau, fel golau a dŵr, ysglyfaethu ar rywogaethau brodorol, cario clefydau newydd, a chroesi gyda rhywogaethau brodorol.

Maen nhw hefyd yn cael effaith economaidd fawr gydag amcan gost i economi Prydain Fawr bron £2 biliwn y flwyddyn! Ac mae'r costau hyn yn debygol o fod yn cynyddu!

Beth sy'n cael ei wneud i atal hyn?

Cotoneaster

Cotoneaster © Lin Cummins

Mae Prosiect Adfer Glaswelltiroedd Calchfaen yn parhau nodi lledaeniad a helaethrwydd creigafalau ymledol anfrodorol, gan roi ffocws ar safleoedd gwarchodedig ar draw Gogledd Cymru. Mae garddwyr wedi bod yn ymuno â’r Cynllun Cyfnewid Planhigion trwy gael gwared ar greigafal o’u gardd a chael Taleb Anrheg Garddio Genedlaethol gwerth £20. Roedd hyn yn bosib diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri. 

Allium triquetrum

Allium triquetrum ©LisaToth

Ffocws prosiect Dianc o Erddi yw mewn atal planhigion gardd sy'n dangos 'ymddygiad ymledol' mewn gerddi rhag dianc i'r gwyllt a dod yn rhywogaethau ymledol yn y dyfodol. Rydym yn gwneud hyn drwy archwilio ffyrdd newydd o weithio gyda garddwyr a rheini sydd efo rôl bwysig mewn stopio lledaeniad rhywogaethau ymledol.

Himalayan balsam bashing at Parish Field

© Jess Minett - WaREN 

Mae prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) yn datblygu dull cydweithredol a chynaliadwy o fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol ledled Cymru. Rydym yn cyflawni hyn drwy gefnogi Grwpiau Gweithredu Lleol a grwpiau gwirfoddol sy'n mynd i'r afael â rhywogaethau ymledol.

Llandderfel Bridge on the River Dee

Mae prosiect Atal Rhywogaethau Anfrodorol Rhag Cydio (PATH) angen eich help chi i amddiffyn ein treftadaeth naturiol rhag rhywogaethau ymledol. Rydym angen i chi helpu rheoli 30km o'r Afon Dyfrdwy o Jac-y-neidiwr, Clymog Japan a pidyn-y-gog Americanaidd rhwng Bala a Llangollen.

A photo of an oyster thief along the shore.

Oyster thief (Colpomenia peregrina) © NWWT

Yn yr amgylchedd forwrol mae’n hawdd iawn i rywogaethau ymledol i fawdheglu siwrnai,  gwneud eu hunan yn gartrefol ac lledaenu; bod yn broblematig.  Fel rhan o’r gwaith mae gwirfoddolwyr 'Shoresearch'  yn eu wneud mae dod eu hadnabod ac hefyd gweld ble maent yn byw.  Gallwn eu ddarganfod wrth wneud gwaith arolwg, neu drwy edrych amdanynt yn arbennig, mae gennym arolygon sydd yn addas i chi.  Hyd yn hyn ‘rydym wedi nodi’r wystrys y Môr Tawel, chwistrell môr blaen oren, llygaid meheryn ewinedd moch, gwymon sargaso, wystrys Chile, ac yr wystrys lladronllyd a hefyd nifer eraill.   Yn ogystal a’u cofrestru a chofrestru y gwaith arolwg, ‘rydym yn sicrhau ein bod, ar ôl pob arolwg traeth, yn gweithredu Edrych, Golchi, Sychu.  

Beth allaf i ei wneud?

Mae llawer o bethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu i fynd i’r afael â’r bygythiadau a achosir gan rywogaethau ymledol:

  1. Dod yn ddinesydd wyddonydd drwy adnabod a rhoi gwybod am weld rhywogaethau ymledol
  2. Helpu i Stopio’r Ymlediad drwy fabwysiadu egwyddorion bioddiogelwch syml
  3. Gwirfoddoli a helpu i reoli rhywogaethau ymledol yn eich cymuned leol               

Sut i gymryd rhan yn yr Wythnos Rhywogaethau Ymledol

  • Ymunwch â ni mewn digwyddiadau ar draws Gogledd Cymru! Am fwy o wybodaeth edrychwch ar ein calendr digwyddiadau.
  • Rhannu gwybodaeth a phrofiadau wrth fynd i'r afael â rhywogaethau ymledol ar gyfryngau cymdeithasol. Dilynwch Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar TwitterFacebook ac Instagram i ddysgu am rywogaethau ymledol. Gallwch hefyd edrych ar @InvasiveSp ar Twitter a chofiwch ddefnyddio #wythnosINNS  #INNSweek wrth greu negeseuon! 

Ond yn fwy na dim, cael hwyl yn dysgu am rywogaethau ymledolbioddiogelwch a sut gallwch chi helpu i ddiogelu ein hamgylchedd ni.    

Volunteers

© Zoe Richards - Ramblers Cymru 

Digwyddiadau’r Wythnos Rhywogaethau Ymledol

Mwy o wybodaeth!