Adfer Ratty: Un o’r mamaliaid sy’n dirywio gyflymaf yn y DU

Adfer Ratty: Un o’r mamaliaid sy’n dirywio gyflymaf yn y DU

Terry Whittaker/2020VISION

Mae blog yr wythnos hon yn edrych ar gynefinoedd y mamal poblogaidd hwn, llygoden bengron y dŵr.

Llygod pengrwn y dŵr yw llygod pengrwn mwyaf Prydain, gyda’r oedolion yn eu llawn dwf yn tyfu i hyd at 20cm (a chynffon 12cm hefyd) ac yn pwyso hyd at 350g. Maent yn greaduriaid bach carismatig, gyda wyneb crwn, trwyn smwt, cynffon flewog fer a ffwr brown tywyll neu ddu sgleiniog. Daeth llygod pengrwn y dŵr yn boblogaidd yn sgil y cymeriad adnabyddus Ratty yn ‘Wind in the Willows’ gan Kenneth Grahame, sydd, er gwaethaf ei enw camarweiniol, yn llygoden bengron y dŵr ac nid llygoden fawr.

… A brown little face, with whiskers. A grave round face, with the same twinkle in its eye that had first attracted his notice. Small neat ears and thick silky hair. It was the Water Rat!
Kenneth Grahame, Wind in the Willows

Er gwaetha’u henw, nid yw llygod pengrwn y dŵr wedi addasu’n arbennig o dda i fywyd yn y dŵr. Maent wedi esblygu i fyw ochr yn ochr â dŵr er mwyn gallu dianc rhag ysglyfaethwyr. Maent yn gwneud sŵn ‘plop’ nodweddiadol wrth ddeifio i’r dŵr i ddianc rhag unrhyw ysglyfaethwr ac i gael mynediad i’w twll o dan y ddaear. Ond maent yn nofwyr trwsgl heb gynffon fel llyw neu draed gweog sydd wedi’u hesblygu gan greaduriaid eraill sy’n hoff o ddŵr. Oddi wrth y dŵr, pan maent yn ddiogel rhag ysglyfaethwyr, gall llygod pengrwn y dŵr fyw bywyd cwbl gloddiol (tyllu) ac a dweud y gwir maent yn gwneud hynny mewn lleoliad adnabyddus yn Glasgow!

Tyllu a magu       

Mae llygod pengrwn y dŵr yn byw mewn tyllau maent yn eu hadeiladu drwy frathu i mewn i lannau gyda’u dannedd oren cryf sydd â haen o enamel drostynt. Gall y tyllau hyn fod yn gymhleth iawn ac maent yn cynnwys siambrau nythu a nyrsio, gyda dwy fynedfa, un ar y lan ac un o dan y dŵr. Bydd llygoden bengron y dŵr yn tyllu i led dwrn wedi’i gau neu bêl tennis yn fras. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae llygod pengrwn y dŵr yn oddefgar o’i gilydd ac yn byw gyda’i gilydd mewn grwpiau teuluol yn eu tyllau; ond mae hyn i gyd yn newid yn ystod y tymor magu, pan maent yn datblygu i fod yn diriogaethol iawn!

Mae’r tymor magu’n dechrau ym mis Ebrill ac yn parhau tan fis Hydref. Mae llygod pengrwn y dŵr yn fagwyr eithriadol lwyddiannus – mae arnynt angen gwneud iawn am y niferoedd sy’n cael eu colli yn ystod y gaeaf, pan mae hyd at 80% o lygod pengrwn y dŵr yn marw, yn bennaf o ganlyniad i lwgu. Dim ond am 23 diwrnod mae llygoden bengron y dŵr fenywaidd yn feichiog! Mae ei babanod (llygod bach) yn gadael y nyth ar ôl tair wythnos ac yn gallu magu eu hunain yn 15 wythnos oed. Gall un llygoden bengron y dŵr fenywaidd eni pump neu chwe gwaith mewn blwyddyn, gyda rhwng 3 a 5 o rai bach yn cael eu geni, sy’n golygu y gall un llygoden bengron y dŵr gael 25 i 30 o fabanod mewn un tymor magu – y greadures! Mae cylch bywyd llygod pengrwn y dŵr yn fyr iawn ac nid ydynt yn byw am fwy nag un gaeaf fel arfer.             

Y tymor magu yw’r cyfnod gorau i arolygu llygod pengrwn y dŵr hefyd, gan fod y benywod tiriogaethol yn gadael pentyrrau o dail (toiledau) i farcio ymylon eu tiriogaethau. Mae dod o hyd i’r rhain yn wireddu breuddwyd i arolygwyr llygod pengrwn y dŵr! Os ydych chi’n meddwl bod llygod pengrwn y dŵr yn eich ardal leol chi o afonydd neu nentydd, cadwch lygad am eu toiledau, eu tyllau a phentyrrau o lystyfiant neu storfeydd bwyd, sy’n ddarnau o lystyfiant sy’n mesur rhwng 4 a 10cm, wedi’u brathu gydag ongl o 45° ar eu blaen.

Bwyta drwy’r amser

Mae llygod pengrwn y dŵr angen bwyta hyd at 80% o bwysau eu corff eu hunain bob dydd er mwyn cadw’n iach. Mae eu deiet yn cynnwys glaswelltau yn bennaf a phlanhigion glan y dŵr, yn ogystal â brigau, bylbiau, gwreiddiau a ffrwythau wedi syrthio. Nid ydynt yn ffyslyd iawn ac maent wedi cael eu cofnodi’n bwyta hyd at 220 o wahanol blanhigion. Er eu bod yn cael eu disgrifio fel llysysyddion, bydd benyw sy’n bwydo ei rhai bach yn bwyta malwod dŵr neu bysgod marw os bydd yn dod ar eu traws, i roi hwb i’w lefelau protein. 

Dirywiad llygod pengrwn y dŵr  

Yn anffodus, llygoden bengron y dŵr yw un o’r mamaliaid sy’n dirywio gyflymaf yn y DU. Mae hyd at 90% o’r boblogaeth wedi’i golli ers y 1970au; rhan o ddirywiad tymor hwy sy’n ymestyn yn ôl i’r Canol Oesoedd. Mae’r rhesymau dros y dirywiad yma’n cynnwys colli a darnio cynefin (eu cynefin yn cael ei rannu’n ddarnau llai heb gysylltiad). Ymhlith yr esiamplau o hyn mae gorbori a thorri glaswellt ar hyd glannau afonydd a throi nentydd yn gamlesi.   

Ond mae’n hysbys mai’r minc Americanaidd yw’r sbardun allweddol y tu ôl i ddirywiad mwy diweddar llygod pengrwn y dŵr. Cyflwynwyd minc i’r DU yn y 1960au ar ôl cau ffermydd ffwr. Yn eu cartref brodorol yng Ngogledd America, mae llygod mwsg yn rhan bwysig o ddeiet y mincod; yn y DU, does dim llygod mwsg ac yn hytrach mae llygod pengrwn y dŵr, sy’n debyg i lygod mwsg, yn ffurfio rhan bwysig o’u deiet. 

Mae llygod pengrwn y dŵr ar waelod y gadwyn fwyd ac mae ganddynt lawer iawn o ysglyfaethwyr. Maent yn cael eu bwyta gan ddyfrgwn, bwncathod, tylluanod a llwynogod i enwi dim ond rhai! Ond mae’r rhain i gyd yn anifeiliaid brodorol a gall llygod pengrwn y dŵr ymdopi â’r pwysau ysglyfaethu naturiol yma drwy fagu’n hynod gyflym a dianc i’w tyllau. Fodd bynnag, mae minc fenywaidd yn ddigon main i ddilyn llygod pengrwn y dŵr i’w tyllau a bwyta poblogaethau cyfan.             

Yn ffodus, nid yw’n rhy hwyr i lygod pengrwn y dŵr! Mae’r Ymddiriedolaethau Natur ledled Prydain wedi bod yn gweithio i helpu llygod pengrwn y dŵr i adfer, gan adfer eu cynefinoedd a’u hailgyflwyno hyd yn oed i ardaloedd lle roeddent wedi’u colli ar un adeg. Un esiampl ragorol o’r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio er lles llygod pengrwn y dŵr yw prosiect Restoring Ratty Ymddiriedolaeth Natur Northumberland.

Adfer Ratty – Dod â llygod pengrwn y dŵr yn ôl i Kielder

Mae Restoring Ratty yn brosiect i ailgyflwyno llygod pengrwn y dŵr yn Fforest Kielder yn Northumberland. Mae’r prosiect yn anarferol o ran ailgyflwyno llygod pengrwn y dŵr, gan fod yr anifeiliaid ar gyfer ein rhaglen fagu mewn caethiwed yn dod o boblogaethau gwyllt, yn hytrach na’r dull arferol o symud llygod pengrwn y dŵr o safleoedd datblygu adeiladau.

Casglwyd llygod pengrwn y dŵr o safleoedd yng Ngogledd y Pennines, Rhosydd Gogledd Sir Efrog a’r Trossachs er mwyn creu cronfa enetig eang i fagu ohoni – gyda geneteg debyg i lygod pengrwn y dŵr a fyddai wedi cael eu canfod yn wreiddiol yn Kielder. I osgoi effeithio ar y poblogaethau cyfrannu, dim ond yn yr hydref y casglwyd llygod pengrwn y dŵr, yn pwyso llai na 160g ac felly ni fyddent yn debygol o oroesi’r gaeaf.    

Ar ôl eu magu mewn caethiwed, dewiswyd y safleoedd rhyddhau yn ofalus a dychwelwyd llygod pengrwn y dŵr i’r gwyllt, gyda monitro rheolaidd i sicrhau eu bod yn ffynnu. Rhwng mis Mehefin 2017 a mis Mehefin 2020, rhyddhawyd 1,762 o lygod pengrwn y dŵr mewn saith grŵp gwahanol ar adegau gwahanol!

Mae Restoring Ratty yn bosibl diolch i gyllid o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chefnogaeth partneriaid yn Forestry England ac Ymddiriedolaeth Afonydd Tyne. Mae modd cael gwybod mwy am y prosiect yn www.nwt.org.uk/RestoringRatt