Nid mater o ddisgrifio’n ffeithiol yn unig ydi dysgu cân adar, mae’n fater o deimlad. Beth mae'r sŵn yn eich atgoffa chi ohono neu sut mae'n gwneud i chi deimlo? Unwaith y byddwch chi wedi cysylltu â'r teimlad hwnnw, ’fyddwch chi byth yn anghofio'r aderyn y tu ôl i'r gân.
Mae adar gwryw yn canu oherwydd bod y dyddiau hirach a’r tymheredd yn codi yn gwneud i'w hormonau ymchwyddo (yn y DU, gwrywod ydi’r holl adar sy'n canu yn y gwanwyn yn y bôn). Mae adar gwryw yn canu er mwyn arddangos eu nwyddau genetig, i ddarbwyllo’r benywod i baru gyda nhw a magu cywion gyda nhw y tymor yma.
Efallai bod ail ddiben cân yr adar yn llai amlwg ar unwaith. Os edrychwch chi ar gartrefi dynol, mae'n amlwg ein bod ni'n hoffi ffiniau clir. Yn y gwanwyn, mae angen digon o le ar adar i ddod o hyd i fwyd i'w cywion, a chyfeirir at y gofod yma fel tiriogaeth. Gan na all adar adeiladu ffensys, maen nhw’n diffinio eu tiriogaethau drwy ganu. Mae aderyn sy’n canu, dim ots pa mor felodaidd neu hardd y mae’n swnio, i bob pwrpas yn dweud wrth gymdogion o’r un rhywogaeth am ‘gadw draw a hedfan i ffwrdd!’
Yn lwcus iawn i ni, mae llawer o adar hardd, gyda chaneuon yr un mor hardd, yn gyffredin yng ngerddi a pharciau'r DU. A’r gwanwyn, wrth i adar hawlio tiriogaeth i fagu ynddi, ydi’r amser gorau i roi sylw iddyn nhw.