Mae’n fis Pride!
I gofio am derfysgoedd Stonewall yn 1969, mae mis Mehefin yn nodi mis Pride LGBTQ+, lle rydyn ni’n dathlu bywydau a hunaniaeth y cymunedau Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol a Chwiar.
Fel rhan o'n hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), rydyn ni’n tynnu sylw at y dyddiau a’r misoedd ymwybyddiaeth sy'n berthnasol i'n gwaith ni neu i'n staff a'n gwirfoddolwyr. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn annog pob aelod o staff i ddod â’u hunan cyfan i’r gwaith, sy’n golygu dathlu ein hamrywiaeth a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar ein cymunedau. Drwy fod yn sefydliad cynhwysol, rydyn ni’n rhoi cyfle i bawb wneud eu gorau i helpu ymdrechion natur a chadwraeth.
Un o nodau allweddol yr Ymddiriedolaethau Natur yw annog 1 o bob 4 o bobl i weithredu dros fyd natur. Mae llawer o bobl yn y gymuned LGBTQ+ sydd â gwir empathi tuag at fyd natur. Mae 15% o staff yr Ymddiriedolaethau Natur yn LGB+ (lesbiaidd, hoyw a deurywiol), sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol o 3.3%, ac mae 0.6% yn drawsryweddol, sydd ychydig yn uwch na’r DU yn gyffredinol. Gyda chymaint o aelodau o staff LGBTQ+ mae'n bwysig iawn i ni siarad am Pride a'i ddathlu.
Mae ymgyrchu yn rhywbeth cyfarwydd i lawer o'r gymuned LGBTQ+, dros bethau maen nhw’n credu ynddyn nhw ac achosion agos at eu calon, oherwydd yr angen am ymladd dros eu hawliau personol eu hunain dros y blynyddoedd. Digwyddodd terfysgoedd Stonewall yn 1969 yn y Stonewall Inn yn Efrog Newydd, pan gynhaliodd yr heddlu gyrch mewn bar hoyw a arweiniodd at wythnos o derfysg a phrotestio. Dan arweiniad merched traws du, safodd pobl LGBTQ+ yn erbyn gormes ochr yn ochr â chyfeillion o bob math, ac roedd yn her aruthrol.