Sut i adnabod hwyaid plymio

Sut i adnabod hwyaid plymio

© Jon Hawkins

Y gaeaf yma, beth am roi munud neu ddau i ddysgu am yr anifeiliaid rhyfeddol yma.

Bydd y blog yma, sy’n cynnwys fideo, yn rhoi cyflwyniad i chi i natur hwyaid plymio cyn eich tywys drwy ddisgrifiad o'r gwahanol rywogaethau ac egluro sut i'w hadnabod.

Beth yw hwyaid plymio?
Gellir rhannu hwyaid yn ddau grŵp eang: trochwyr a phlymwyr. Mae hwyaden blymio yn derm llac sy'n cynnwys ystod eang o hwyaid sy'n bwydo'n bennaf drwy blymio o dan y dŵr, i fynd ar ôl pysgod, cipio pryfed neu bori ar blanhigion dyfrol blasus. Mae'n well gan rai hwyaid plymio ddŵr croyw ac maent i’w gweld yn aml ar afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr; mae'n well gan eraill y môr ac fe'u gwelir o'r arfordir fel rheol.

Pa hwyaid plymio ydw i’n debygol o'u gweld?
Gellir gweld hwyaid plymio drwy gydol y flwyddyn, ond mae'r gaeaf yn rhoi hwb i’r niferoedd wrth i adar gyrraedd o Ogledd Ewrop a Rwsia. Mae rhai rhywogaethau, fel yr hwyaden benddu a’r lleian wen, yn ymwelwyr gaeaf yn bennaf a phur anaml maent i’w gweld yn ystod yr haf.

Mae'r canllaw adnabod cyflym yma’n cynnwys y rhywogaethau mwy eang a rhai o'r hwyaid plymio prinnach y gallech ddod ar eu traws ledled y DU. Mae'r rhan fwyaf o’r disgrifiadau'n cyfeirio at adar mewn plu magu, sef y plu a welir fel arfer o'r hydref tan y gwanwyn. Ar ôl magu, maent yn dechrau bwrw eu plu ac mae’r gwrywod yn aml yn cael plu "cysgodi" dryslyd, lle maent fel arfer yn debyg i’r benywod. 

Yr Hwyaid
Hwyaden gopog (gwryw)

Ein hwyaden blymio fwyaf cyffredin; i'w gweld ar unrhyw gorff o ddŵr croyw bron ac i'w gweld yn aml mewn parciau ac ar ddyfrffyrdd trefol. Mae'n hawdd adnabod y gwrywod oherwydd eu plu du a gwyn a'r twmpath hir o blu ar eu pen.

Hwyaden gopog (benyw)
Mae’r benywod yn llawer brownach na’r gwrywod. Mae'r twmpath ar eu pen yn llawer llai, ond yn amlwg o hyd. Weithiau mae ganddynt blu gwyn o amgylch gwaelod y pig, yn debyg i hwyaden benddu, ond mae gan big yr hwyaden gopog fenywaidd flaen du llydan gydag ‘awgrym’ o fand gwelw y tu ôl iddo.

Hwyaden Benddu
Fel yr hwyaden gopog, ond yn fwy gyda phen mwy crwn a dim awgrym o dwmpath arno, a dim ond ychydig bach o ddu ar flaen y pig. Mae gan y gwrywod gefn llwyd golau; mae’r benywod yn llwydfrown brith gyda gwyn amlwg ar yr wyneb. Ymwelwyr y gaeaf yw’r rhain ac fel rheol maent ar yr arfordir, gan ffurfio heidiau mawr ar rai safleoedd yn yr Alban, ond gellir eu gweld ar lynnoedd a chronfeydd dŵr mewndirol.

Hwyaden bengoch (gwryw)
Mae'r hwyaden olygus yma’n aderyn magu anghyffredin yn y DU, ond yn ymwelydd gaeaf cyffredin iawn. Mae gan y gwrywod gorff llwyd golau gyda du ar y fron a'r pen-ôl, pen lliw castan llachar gyda llygad coch, a phig du gyda band llwydlas ar ei draws.
Hwyaden bengoch (benyw)
Nid yw hwyaid pengoch benywaidd mor llachar eu lliw â’r gwrywod. Maent yn llwydfrown yn bennaf, gyda chefn llwytach a phen brown tywyll. Mae’r adar ifanc yn debyg i’r benywod ond maent yn fwy unffurf eu lliw llwydfrown. Mae siâp y pen yn nodedig, gyda chorun big a thalcen ar oleddf sy'n rhedeg yn esmwyth i gromlin y pig.

Hwyaden gribgoch
Sefydlodd yr hwyaid hyn yn ne canolbarth Lloegr ar ôl dianc o gasgliadau caeth. Mae gan y gwrywod gorff du gydag ystlysau gwyn a chefn brown. Mae'r pen yn lliw oren rhydlyd, yn aml yn fwy disglair ar y top, gyda phig coch llachar. Mae’r benywod yn frown meddal, gyda bochau gwynion, cap brown cyfoethog a phig llwyd gyda blaen pinc.

Hwyaden lygad-aur (gwryw)
Mae hwyaid llygad-aur yn magu yn ucheldiroedd yr Alban, ond yn y gaeaf gellir eu gweld ar lynnoedd, afonydd mawr ac arfordiroedd ledled y DU. Mae’r gwrywod yn ddisglair gyda chorff du a gwyn a phen mawr, crwn. Mae'r pen yn sgleiniog a gall ymddangos yn wyrdd neu’n borffor, yn dibynnu ar y golau, gyda llygad aur a darn gwyn y tu ôl i'r pig.
Hwyaden lygad-aur (benyw)
Mae gan y benywod gorff llwyd lliw lludw yn bennaf gyda phen brown a choler wen. Mae'r llygad yn felyn gwelw ac mae'r pig yn dywyll fel arfer gyda band melyn ar ei draws mewn plu magu. Mae’r adar ifanc yn debyg i’r benywod ond maent yn fwy pŵl ac nid oes ganddynt goler wen.

Hwyaden fwythblu
Hwyaden fôr fawr a thrwm gyda phig siâp lletem. Mae’r gwrywod yn ddu a gwyn trawiadol, gyda gwar gwyrdd a chap du. Mae’r benywod yn frown gyda rhesi tywyll. Maent yn bresennol drwy gydol y flwyddyn oddi ar arfordiroedd gogleddol, yn ymgynnull yn aml mewn heidiau mawr. Yn y gaeaf maent yn crwydro tua'r de a gellir eu gweld oddi ar rannau eraill o'r DU. Mae'n anghyffredin iawn dod o hyd i un mewndirol.

HWYAID DANHEDDOG
Mae hwyaid danheddog yn grŵp o hwyaid plymio gyda danheddu tebyg i olion llifio ar eu pigau main, sy'n eu helpu i ddal pysgod.

Lleian wen
Mae’r hwyaden ddanheddog leiaf yn ymwelydd gaeaf prin â'r DU. Mae’r gwrywod yn wyn disglair, gyda marciau du gan gynnwys mwgwd du taclus y tu ôl i'r pig. Mae’r lleianod gwynion benywaidd a’r rhai ifanc yn edrych yn debyg iawn i'w gilydd a chyfeirir atynt gyda'i gilydd fel pennau cochion. Maent yn llwyd ar y cyfan, gyda bochau gwynion a gwar, corun a thalcen lliw castan tywyll. Pennau cochion yw’r mwyafrif a welir yn y DU.

Hwyadwydd ddanheddog (gwryw)
Hwyaden fawr gyda chorff hir sy'n magu ar afonydd a llynnoedd yr ucheldir yng ngogledd a gorllewin Prydain. Yn y gaeaf, maent yn ymweld â llynnoedd, afonydd a chronfeydd dŵr mewn rhanbarthau eraill a gallant glwydo mewn niferoedd da ar lynnoedd addas. Mae gan y gwrywod ben gwyrdd tywyll, pig coch, cefn du a chorff gwyn i raddau helaeth. Wrth hedfan, mae darnau gwyn yn gorchuddio'r rhan fwyaf o'u hadenydd mewnol.
Hwyadwydd ddanheddog (benyw)
Mae’r benywod yn llwydaidd gyda phen cochfrown tywyll sy'n cyferbynnu'n llym â'r darn gwyn ar yr ên a'r gwddw gwynnach (cymharwch â'r cyfuno cynnil ar wddw’r hwyaden frongoch). Mae ganddynt grib hir sy'n aml yn hongian y tu ôl i'r pen ond gellir ei godi yn gudynau. Mae’r adar ifanc yn debyg i’r benywod.

Hwyaden frongoch (gwryw)
Yn feinach na’r hwyadwydd ddanheddog, gyda phig culach. Mae gan y gwrywod ben gwyrdd-ddu sgleiniog gyda chrib tebyg i bync, coler wen a gwddw brown streipiog. Mae'r cefn yn ddu yn bennaf a'r ystlysau'n llwyd, gydag ochrau du ar y fron yn dangos smotiau gwyn nodedig. Wrth hedfan, mae llai o wyn ar eu hadenydd na’r hwyadwydd ddanheddog. Arfordirol yn bennaf.
Hwyaden frongoch (benyw)
Mae’r benywod yn llwydfrown gyda phen brown cynhesach. Maent yn debyg i hwyadwyddau danheddog benywaidd ond mae ganddynt fôn teneuach i'r pig, pen llai cochfrown a chrib byrrach, mwy pigog. Un gwahaniaeth allweddol yw bod lliw'r pen yn cyfuno’n gynnil â’r gwddw gwelw, tra mae gwahaniaeth amlwg yn y fan yma mewn hwyadwyddau danheddog.

Wel, dyna ni oddi wrthym ni (a'r hwyaid). Os gwnaethoch chi fwynhau'r cynnwys yma, beth am gofrestru i dderbyn ein e-gylchlythyr i gael gwybodaeth gyson am fywyd gwyllt Gogledd Cymru! Dolen isod.

Derbyn yr e-gylchlythyr