Mae'n ymddangos bod gobaith i fioamrywiaeth ar ôl COP15. Mae Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (GBF) Kunming-Montreal yn cydnabod bod ‘bioamrywiaeth yn sylfaenol i les dynol a phlaned iach’.
"Bioamrywiaeth yn cefnogi pob system o fywyd ar y ddaear"
Nod Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal yw adfer o leiaf 30% o ecosystemau’r tir, y dŵr mewndirol, yr arfordir a’r môr sydd wedi’u diraddio erbyn 2030. Bydd hyn yn gwella bioamrywiaeth, swyddogaethau a gwasanaethau ecosystemau, integriti ecolegol a chysylltedd. Mae’r DU yn un o’r ardaloedd sydd wedi colli’r gyfran fwyaf o’i byd natur yn y byd. Bydd y fframwaith newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ni edrych ar rai o'n polisïau ni ein hunain, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thargedau byd-eang newydd i ddiogelu byd natur. Mae mwy o wybodaeth am sut mae COP15 yn rhoi gobaith i fyd natur ar gyfer y dyfodol ar gael yma.
"targed o 30erbyn30 o ddiogelu 30% o dir a mor ar gyfer byd natur erbyn 2030"
Er mwyn cyflawni hyn, rhaid ystyried bygythiadau i fioamrywiaeth. Mae'r IPBES (Gwyddoniaeth Rynglywodraethol - Llwyfan Polisi ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau) wedi nodi'r pum prif ysgogydd i golli bioamrywiaeth yn fyd-eang, ac un ohonynt yw rhywogaethau ymledol (sy’n cael eu galw hefyd yn rhywogaethau estron ymledol).