Gwarchodfa Natur Cemlyn
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Yr haf ar gyfer mor-wenoliaid yn magu eu cywion; y gaeaf ar gyfer rhydgwyrAm dan y warchodfa
Adar môr trawiadol
Wedi’i leoli ar arfordir gogleddol gwyllt Ynys Môn, gyda’i esgair unigryw, hirgrwn o ro mân, mae Cemlyn yn safle anhygoel i ymweld ag ef. Mae’r esgair, sy’n cael ei hadnabod fel Esgair Cemlyn, yn gynefin pwysig i rywogaethau arbenigol o blanhigion, fel bresych y môr, gludlys arfor a phabi corniog melyn. Y tu hwnt i’r esgair, mae’r môrlyn bas yn gynefin diddorol i rywogaethau dyfrol fel y dyfrllys troellog prin ac mae’r ardaloedd o amgylch o eithin a glaswelltir yn gynefin i amrywiaeth eang o löynnod byw ac adar. Drwy gydol y flwyddyn, mae adar rhydio ac adar gwyllt i’w gweld o amgylch y môr-lyn ar y glannau cyfagos. Yr amser gorau i ymweld â’r safle yw rhwng misoedd Mai a Gorffennaf pan mae ynysoedd y môr-lyn yn croesawu poblogaethau’n nythu o fôr-wenoliaid y Gogledd, pigddu a chyffredin. Dyma’r unig boblogaeth nythu o’r Fôr-wennol Bigddu yng Nghymru ac mae’n olygfa drawiadol iawn ym myd natur – peidiwch â’i cholli!
A wyddoch chi?
Mae bywyd gwyllt Cemlyn, a’r adar yn benodol, wedi cael ei fonitro gan wardeiniaid bob haf ers 1981, gan roi gwybodaeth ryfeddol am sut mae ein harfordir yn newid.
Cyfarwyddiadau
Mae Cemlyn ar arfordir gogleddol Ynys Môn, i’r gorllewin o Orsaf Pŵer Niwclear Wylfa. Trowch oddi ar yr A5025 yn Nhregele. I gyrraedd maes parcio’r ‘traeth’ (dwyrain), dilynwch y ffordd a throi’n sydyn i’r dde yn y fforch gyntaf. I gyrraedd maes parcio ‘Bryn Aber’ (gorllewin ac agosaf at fan gwylio’r warden – SH329 935), ewch ymlaen i’r chwith, gan fynd i’r dde wedyn ym mhob fforch y dowch iddi. .
Rhywogaethau
Cysylltwch â ni
Cylchdaith rhithiol
Darganfyddwch beth sydd yn wneud Gwarchodfa Natur Cemlyn y le mor wych i’r Môr-wenoliaid a beth rydym yn wneud i helpu nhw i ymgartrefu yno! Cymrwch daith rhithiol gyda ein infograffig rhyngweithiol (gyda diolch i brosiect LIFE Roseate Tern).
Canllaw ar gyfer Adnabod Morwenoliaid
Yng Nghemlyn mae un o'r poblogaethau mwyaf o forwenoliaid yn y DU. Pwrpas y canllaw yma yw eich helpu i adnabod y prif rywogaethau yr ydych yn debygol o'u gweld yma yn ystod misoedd yr haf.
Support Us
Join today!