Gwarchodfa Natur Gors Maen Llwyd
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Gwanwyn ac yr hafAm dan y warchodfa
Cymru wyllt a rhyfeddol
Yn y gwanwyn, ewch allan drwy’r grug ac ar y rhos fel mae’r wawr yn torri ac fe gewch chi brofi rhyfeddod byd natur sydd wedi bod yn digwydd yma ers milenia: cri fyrlymus gwryw y rugiar ddu yn paru. Wedyn, wrth i’r haul godi dros Fryniau Clwyd i’r dwyrain, mae arogl rhostir mawnog, nodedig yn llenwi’r awyr, a chri’r gylfinir, yr ehedydd a’r gog yn cyhoeddi bod diwrnod newydd ar droed. Yn raddol, wrth i’r golygfeydd panoramig ddod i’r golwg o dywyllwch y nos, mae’r ymdeimlad tangnefeddus o fod ar eich pen eich hun yng nghanol y dirwedd wyllt, enfawr yma’n gwawrio arnoch chi.
Gors Maen Llwyd, sy’n ffinio â Llyn Brenig, yw un o warchodfeydd natur mwyaf yr Ymddiriedolaeth Natur ac mae’n cynnwys rhos yr ucheldir, gorgors a gwlybdir yn llawn mwsoglau sffagnwm, ffa’r gors a llugaeron. Yn yr haf, mae gwenoliaid y glennydd yn nythu mewn poblogaethau mawr ar hyd ymyl y gronfa ddŵr, gyda’u mynd a dod cyson yn gefndir bob amser wrth i chi fynd am dro yn ystod yr haf. Y cefndir i’r enw ‘Cors Maen Llwyd’ yw carreg gafodd ei chludo yma a’i gwaddodi gan yr haenau iâ’n cilio yn ystod yr oes iâ ddiwethaf – ond does dim byd yn llwyd am y warchodfa yma yn sicr!
Torri’r grug
Mae’r ardal hon yn yr ucheldir wedi bod yn cael ei ‘rheoli’ gan bobl ers miloedd o flynyddoedd. Bu’r Hen Frythoniaid yn cael gwared ar fforestydd er mwyn darparu mwy o le i bori ac, ar ddechrau’r 1900au, cafodd y rhos ei gynnal a’i gadw ar gyfer saethu grugieir. (Yn cael eu gwarchod rhag cael eu saethu bellach, mae’r grugieir du a choch yn magu ar y safle erbyn hyn.) Mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn ceisio rheoli’r dirwedd mewn ffordd fwy naturiol drwy gadw ardaloedd o gynefinoedd amrywiol. Mae ardaloedd bychain o rug yn cael eu torri ar gylchdro – mewn siapiau tonnog i fod yn llai amlwg ar y dirwedd – er mwyn cadw’r strwythur oedran yn amrywiol, ac mae defaid yn pori’r safle yn ystod y gwanwyn a’r haf er mwyn cadw’r grug mewn cyflwr da. Rydym yn cadw llygad ar ymlediad y conwydd o’r planhigfeydd cyfagos.
Cyfarwyddiadau
Mae Gors Maen Llwyd ym mhen gogleddol Llyn Brenig, 7 milltir i’r de orllewin o Ddinbych a 4 milltir i’r gogledd o Gerrigydrudion. Mae’r ddau faes parcio’n hwylus i’w cyrraedd o’r B4501: un yn syth o’r ffordd (SH 970 580) ac un i lawr trac byr, ger y guddfan adar (SH 983 574). Hefyd mae posib mynd i’r warchodfa drwy barcio yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig Dŵr Cymru a cherdded ar hyd glan y llyn i’r naill gyfeiriad neu’r llall – bydd hyn yn cymryd rhyw awr, gan ddibynnu ar ba mor gyflym ydych chi’n cerdded.
Rhywogaethau
Cynefin
Cysylltwch â ni
Gweilch y Pysgod yn Llyn Brenig
Prif rôl Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel rhan o Brosiect Gweilch y Pysgod Llyn Brenig yw helpu ymwelwyr i ddeall y bywyd gwyllt lleol, gan gynnwys yr adar godidog yma. Beth am ddod draw yma i gael eu gweld yn agos?
Gyda thelesgop, gallwch weld y pâr o bellter diogel o fis Ebrill tan ddiwedd mis Awst – holwch yng nghanolfan ymwelwyr Dŵr Cymru am gyfarwyddiadau ar gyfer cyrraedd y lleoliad (5 munud hwylus ar droed).