Y prif nodwedd yn Nghemlyn, ac hefyd sydd wedi bod yn y gorffennol, yw cytref y môr-wennoliaid ond o dro i dro mae yna flynyddoedd llwm ble mae’r bridio yn methu. Tra fod hyn yn ddigwyddiad hollol naturiol, siomedig iawn yw pan mae’n digwydd. Fe ddigwyddodd hyn, yn ddiweddar iawn, yn 2017, pan adawodd yr holl gytref yr warchodfa. Yn ffodus, nid oedd hyn yn llwyr drychinebus i nifer o’r rhywogaethau oedd yn ei defnyddio – hirhoedlog yw rhywogaeth y môr-wennol ac maen debyg fod nifer fawr o’r fôr-wennoliaid pigddu wedi bridio’n llwyddiannus yn rhywle arall.
Ond, mae Cemlyn yn parhau i fod yn safle arbennig i’r môr-wennoliaid, a gyda mawr ryddhad, ar ôl dechreuad araf iawn, dychwelwyd y cytref yn 2018. Er fod y niferoedd yn llai na mewn blynyddoedd blaenorol, iach iawn oedd y cytref i gymharu â 2017! Ar gyfartaledd, fe nythwyd tros 500 pâr o’r fôr–wennol bigddu, a magwyd, o leiaf, 180 cyw. Hefyd, fe nythwyd grwpiau bach o fôr-wennoliaid y gogledd a chyffredin , gan fagu 7 chiw a 10 ciw yn y drefn honno, tra fod gwylanod penddu (rhywogaeth bwysig sy’n amddiffyn y môr-wennol bigddu rhag ysglyfaethwyr) wedi llwyddo magu 100 o gywion allan o tros 220 o nythod. Er fod y niferoedd hyn yn edrych yn isel, dylid edrych ar y tymor hyn fel tymor adferiad llwyddiannus iawn – addawol iawn hefyd, tuag at gynnydd yn y cytref eto yn 2019.