Mae 2021 yn nodi hanner can mlynedd ers sefydlu Cemlyn fel Gwarchodfa Natur gan yr Ymddiriedolaeth Natur. Yma rydyn ni’n edrych yn ôl ar ddegawdau cynnar yr ugeinfed ganrif ac ar gymeriad pwysig yn hanes Cemlyn a’r ardal gyfagos i gyd. Stori sy’n mynd â ni ar drywydd peilotiaid a chasgliadau o wyau!
Mae'r blog cyntaf yn y gyfres hon yn edrych ar y stori y tu ôl i'r eiddo muriog 'dirgel' ym mhen gorllewinol crib y graean a sut y daeth y Capten Vivian Hewitt i fod yn gymeriad pwysig yn hanes Cemlyn a'r ardal gyfagos. Stori yn cynnwys peilotiaid cynnar a chasgliadau wyau!
Dechrau Di-nod ac Anturiaethau
Mae’r bywgraffiad “The Modest Millionaire”, sydd wedi’i ysgrifennu gan y meddyg teulu o Gemaes, William Hywel, yn adrodd stori bywyd Capten Vivian Hewitt. Wedi’i eni yn 1888, cafodd Vivian ei fagu yn Sir y Fflint ac roedd yn siaradwr Cymraeg rhugl a brofodd yn ased gwych pan ymgartrefodd yn ddiweddarach yng Nghemlyn.
Ar ôl gadael ysgol Harrow yn 16 oed, teithiodd dramor ac wedyn gweithio yn y gweithdai peirianneg forol yn iard longau’r doc yn Portsmouth. Ar ôl ei gyfnod yn Portsmouth, treuliodd 4 blynedd fel prentis yng ngweithdai’r rheilffordd yn Crewe. Cafodd brofiad o sawl agwedd ar beirianneg y rheilffordd a daeth yn beiriannydd mecanyddol medrus.
Dyma pryd dychwelodd Vivian i’w gartref teuluol yn Bodfari a dechrau ymddiddori mewn hedfan ac ef oedd y person cyntaf i hedfan ar draws Môr Iwerddon o Gaergybi i Ddulyn yn 1912. Treuliodd Vivian Hewitt y Rhyfel Byd Cyntaf yn yr RNVR yn gweithio yn America fel peilot Prawf, gan brofi ac archwilio awyrennau a oedd yn cael eu hadeiladu ar gyfer Prydain, i gael eu defnyddio mewn rhagchwiliadau uwch ben llinell y gelyn. O ganlyniad i’r gwaith rhyfel hanfodol hwn y cafodd ei benodi’n “Gapten”.
Casgliadau o Adar a Chartref Newydd
Yn dilyn damwain, bu’n rhaid i Gapten Hewitt roi’r gorau i hedfan a throdd ei sylw at adareg ac, yn arbennig, at gasglu wyau a chrwyn adar, hobi eithaf cyffredin ym Mhrydain Edwardaidd. Prynodd 2 Garfil Mawr wedi’u stwffio ac 13 o wyau Carfil Mawr. Yn ddiweddarach, pan ddaeth casglu wyau yn anghyfreithlon, ychwanegodd at ei gasgliad drwy brynu casgliadau öolegwyr eraill. Yng nghanol y 1930au, daeth yn warchodwr adar. Roedd wedi rhentu eiddo ym Mhenmon ar ddechrau’r 1930au am ei fod yn agos at Ynys Seiriol ac, yn y diwedd, penderfynodd y byddai’n hoffi prynu cartref ei hun ar Ynys Môn lle gallai sefydlu noddfa i adar. Aeth ati gyda Jack Parry, mab ei howscipar, i yrru o amgylch arfordir Ynys Môn. Y tu draw i Gemaes, a oedd yn rhan eithaf anghysbell o Ynys Môn, daeth i Gemlyn a gweld Bryn Aber, y tŷ a fyddai’n gartref iddo am y 30 mlynedd nesaf. Rhentodd y tŷ i ddechrau, ond ar ôl 8 mlynedd llwyddodd i’w brynu. Wedyn prynodd sawl fferm gyfagos gan stad Meyrick: Plas Cemlyn, Fronddu, a Thy’n Llan ac, yn olaf, Tyddyn Sydney gan stad Llys Dulas: roedd yr ardal gyfan yn 200 erw o dir amaethyddol a fflatiau llaid, cors halen a’r esgair o ro mân.
Bryn Aber, Môr-lyn Cemlyn a Neptune
Yn ystod misoedd yr haf, roedd y fflatiau llaid yn sychu’n rhannol am nad yw’r llanw mor uchel ag yn y gwanwyn a’r hydref. Roedd deunydd organig yn pydru yn cronni ac yn creu arogl amhleserus mewn tywydd poeth ac roedd y fflatiau llaid a’r pyllau bas yn fagwrfa ddelfrydol i niferoedd mawr o wybed mân a mosgitos. I leddfu’r broblem hon, trefnodd Capten Hewitt i argae gael ei godi ar draws y nant oedd yn draenio’r ardal i’r môr gerllaw Bryn Aber. Creodd hyn ardal o ddŵr bas i greu llifogydd parhaol yn y fflatiau llaid. Yn nes ymlaen, codwyd uchder yr argae fel bod y dŵr yn 5 troedfedd o ddyfnder tu ôl i gored ac, ar gyfartaledd, yn 1 i 2½ troedfedd ar draws gweddill y môr-lyn, gan ei wneud yn fwy addas ar gyfer hwyaid yn plymio, hwyadwyddau, gwyachod bach ac ati.
I sicrhau mwy o amrywiaeth o adar o amgylch Cemlyn, credai’r Capten bod arno angen darparu cysgod a choed – tasg gymharol anodd mewn llecyn mor agored, felly penderfynodd bod angen adeiladu wal frics ddwbl, gan gyflogi nifer o ddynion lleol ar ddiwedd y 1930au. Ni chwblhawyd y wal erioed, a gadawyd pentyrrau mawr o frics heb eu defnyddio o amgylch y tu allan i waelod y wal pan ddaeth y gwaith adeiladu i ben yn 1939 ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd. Ystol dros y wal oedd yr unig fynediad i’r ardal hon tu ôl i wal. Plannwyd coed a llwyni, ond roedd y rhan fwyaf yn anaddas i’r hinsawdd a’r tir, gan arwain at lawer o goed a llwyni marw ac yn marw yn tagu’r ardal.
Dirywiodd iechyd Capten Hewitt yn y pen draw, a bu farw yn 1965. Etifeddodd Jack Parry Stad Cemlyn a’i gwerthu’n ddiweddarach, ac eithrio Bryn Aber ac adeiladau’r Iard Lo, i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a ddefnyddiodd gyllid Menter Neptune i brynu’r safle.
Ar ôl i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol brynu Cemlyn, cafwyd trafodaethau gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (Ymddiriedolaeth y Naturiaethwyr bryd hynny) i sefydlu gwarchodfa natur. Dechreuodd y brydles yn 1971 i fod yn weithredol am 21 mlynedd. Yn 1992, cafodd ei hadnewyddu am 21 o flynyddoedd pellach ac eto yn 2013.
Byddwn yn parhau â’n stori rywdro eto ac yn edrych yn ôl ar rai o’r digwyddiadau pwysig yn hanes y lleoliad eiconig hwn.
Gallwch weld rhywfaint o gasgliad Capten Hewitt o adar yng Nghanolfan Cadwraeth Natur Pensychnant.
Sylwer, mae Bryn Aber bellach yn eiddo preifat.
Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar ddeunydd wedi’i baratoi gan Jane Rees sydd wedi ymwneud â Chemlyn ers blynyddoedd lawer ac mae’n seiliedig hefyd ar hanes y "Modest Millionaire".