Wythnos Cofio am Elusen yn eich Ewyllys
Ochr yn ochr â Len Goodman, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn dathlu Wythnos Cofio am Elusen yn eich Ewyllys mewn nifer o ffyrdd cyffrous:
- Mae ein tîm gwaddol ar fin cynnig cyngor yn nigwyddiadau Ymddiriedolaeth Natur yng Ngogledd Cymru
- Mae ein tîm gwaddol yn cynnal sesiwn holi ac ateb Zoom ar-lein am Ewyllysiau. Bydd hyn yn fyw ddydd Mercher (8 Medi) rhwng 1PM a 4PM
- Mae cystadleuaeth lluniau ôl troed lle gallwch ennill gwobrau
- Fel bob amser, mae llawer o wybodaeth gwaddol rhad ac am ddim
Sut i ysgrifennu eich Ewyllys
Rydym wedi ymrwymo i nifer o bartneriaethau sy'n galluogi ein cefnogwyr i ysgrifennu eu Hewyllysiau yn rhad ac am ddim – heb unrhyw rwymedigaethau o gwbl. Ym mhob achos, rydym yn talu cyfradd ddewisol ar gyfer nifer cyfyngedig o Ewyllysiau syml i'w hysgrifennu – os yw pethau'n fwy cymhleth, bydd angen i chi dalu unrhyw ffioedd ychwanegol.
Yn bwysig iawn, mae ein HOLL wasanaethau ysgrifennu Ewyllys rhad ac am ddim yn cael eu gwirio gan gyfreithiwr cwbl gymwysedig i roi tawelwch meddwl i chi bod eich anwyliaid yn ddiogel.
Ysgrifennwch eich Ewyllys RHAD AC AM DDIM ar-lein
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o ysgrifennu eich Ewyllys yw gwneud hynny ar-lein. Gall gymryd cyn lleied â 30 munud, mae'r holl Ewyllysiau'n cael eu gwirio gan gyfreithiwr, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i adael rhodd i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Defnyddiwch gyfreithiwr RHAD AC AM DDIM
Os byddai'n well gennych chi ddefnyddio cyfreithiwr lleol traddodiadol gallwn gynnig hynny hefyd, yn rhad ac am ddim, drwy'r Rhwydwaith Ewyllysiau Rhad ac Am Ddim Cenedlaethol.
Ysgrifennwch eich Ewyllys RHAD AC AM DDIM ar y ffôn
Gallwch hefyd greu eich Ewyllys, yn rhad ac am ddim, ar y ffôn, drwy alwad fideo neu hyd yn oed yn eich cartref eich hun.
Defnyddiwch eich cyfreithiwr eich hun
Gallwch, wrth gwrs, ddefnyddio eich cyfreithiwr teulu eich hun a thalu am eich Ewyllys eich hun.
Archwiliwch ein gwasanaethau Ysgrifennu Ewyllys rhad ac am ddim
Gadael rhodd yn eich Ewyllys
Helpwch i ddiogelu bywyd gwyllt lleol a mannau gwyllt ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol drwy adael rhodd yn eich Ewyllys.
Unwaith y byddwch wedi darparu ar gyfer eich anwyliaid, mae cofio Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn eich Ewyllys yn helpu i gadw eich atgofion o'n bywyd gwyllt yn fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae angen y cymorth hwn arnom i sicrhau y bydd plant Gogledd Cymru yn gallu parhau i fwynhau eu bywyd gwyllt a'u mannau gwyllt wrth iddynt dyfu i fyny a chael teuluoedd eu hunain.
Mae pob rhodd ym mhob Ewyllys, boed yn fach neu’n fawr, yn gwneud gwahaniaeth.
Beth fydd eich gwaddol?
Mae gwaddol eisoes yn gwneud pethau gwych – yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi ein helpu i reoli gwarchodfeydd natur, gwarchod rhywogaethau unigol, achub safleoedd bywyd gwyllt, plannu coed a helpu plant ysgol i wneud gerddi bywyd gwyllt hardd. Gadewch eich ôl troed yn ein tirwedd am byth a gadewch waddol bywyd gwyllt.
“Rwyf wedi bod yn rhoi ysgrifennu fy ewyllys o’r neilltu ers blynyddoedd lawer gan ei fod bob amser yn ymddangos yn gymhleth. Mae gwasanaeth ysgrifennu ewyllys NWWT yn gyflym ac yn hawdd iawn i'w ddefnyddio, gan wneud gadael gwaddol i helpu Natur yn syml iawn.” Lyn