Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig (Cynffig) yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) hardd yn Ne Cymru. Fe wnes i ymweld â Chynffig yn ddiweddar fel swyddog prosiect ar gyfer Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru, i weld sut maent yn mynd i’r afael â rhywogaethau estron ymledol (‘rhywogaethau ymledol’). Mae rhywogaethau ymledol yn rhywogaethau estron sydd wedi'u cyflwyno'n fwriadol neu'n anfwriadol y tu hwnt i'w hamrediad naturiol gan fodau dynol. Mae eu lledaeniad yn bygwth bioamrywiaeth frodorol a gall achosi niwed i'r amgylchedd, yr economi a'n hiechyd.
Mae Cynffig yn gorchuddio tua 1,300 o erwau ac mae'n cynnwys ardal o dwyni tywod a phwll Cynffig, llyn naturiol mwyaf Morgannwg. Mae'r warchodfa'n gartref i lawer o degeirianau anhygoel, a rhywogaethau o adar a phryfed, y mae eu goroesiad yn dibynnu ar y cynefin unigryw yma. Mae Cynffig hefyd yn cynnwys llawer o rywogaethau prin sydd mewn perygl, gyda rhai ohonynt, er enghraifft Murwyll Arfor (Matthiola sinuata), ond i’w gweld mewn ychydig o lefydd yn y DU!