Mae'r gacynen feirch Asiaidd (Vespa velutina) yn gacynen feirch ysglyfaethus sy'n frodorol i Asia. Mae cacwn meirch Asiaidd yn Rhywogaeth Rhybudd ac mae angen rhoi gwybod am eu gweld cyn gynted â phosibl er mwyn eu hatal rhag sefydlu ym Mhrydain Fawr.
Cadarnhaodd yr Uned Wenyn Genedlaethol bod cacynen feirch Asiaidd wedi cael ei gweld am y tro cyntaf ym Mhrydain Fawr ym mis Medi 2016 yn ardal Tetbury yn Swydd Gaerloyw. Mae 32 o nythod cacwn meirch Asiaidd wedi cael eu gweld mewn 27 lleoliad, yn bennaf ar hyd Arfordir De Lloegr (ar 1af Medi 2023). I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a welwyd, ewch i wefan yr Uned Wenyn Genedlaethol.
Os gwelwch chi gacynen feirch Asiaidd, peidiwch â cheisio ei dal na dinistrio ei nyth. Rhowch wybod am ei gweld drwy ddefnyddio’r ap Asian Hornet Watch ar Android ac iPhone neu gallwch roi gwybod am ei gweld ar-lein yma.