"Aeth fy nhaid, Charles Francis Cooke, a'i frawd Ralph i fusnes gyda'i gilydd yn 1922 pan wnaethant brynu safle ffatri ffrwydron y Weinyddiaeth Arfau ym Mhenrhyndeudraeth – sy’n cael ei hadnabod heddiw fel Gwarchodfa Natur Gwaith Powdwr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Gadawodd swydd beirianyddol gyda chyflog da yn Norwich i sefydlu'r busnes ar y cyd a rhoddodd y ddau eu cynilion yn y fenter – yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf wrth i’r busnes sefydlu, dim ond £1 yr wythnos o gyflog oedd fy nhaid yn ei gymryd. Roedd yn byw drws nesaf i'r ffatri ac roedd ar y safle bob dydd o'r wythnos; gan fynd â fy mam yno hefyd weithiau – bu'r teulu'n berchen ar y busnes tan 1958".
Disgynnydd Gwaith Powdwr a chefnogwr yr Ymddiriedolaethau Natur
Fe sylweddolais i fy mod i eisiau helpu i sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth
yn gallu parhau i wneud ei gwaith anhygoel.
"Fe wnaeth Charles Cooke, fel peiriannydd, gynllunio ac adeiladu'r system gludo uwch ben ar gyfer deunyddiau crai, fel bod posib eu symud yn haws o amgylch y safle bryniog, gan sicrhau llawer llai o godi trwm i'r gweithlu. Dyluniodd ac adeiladodd dwnnel hefyd i gael mynediad haws o un ochr i'r safle i'r llall, gan alluogi i'r ddau leoliad fod ar wahân o hyd am resymau diogelwch. Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan gynigiwyd fy swydd gyntaf un i mi fel clerc cyfrifon yng Ngorsaf Pŵer Niwclear Trawsfynydd, llwyddais i brofi'r cyfuniad o olygfeydd ysblennydd a pherygl sylfaenol drosof i fy hun!"
"Wrth i fy mywyd yn y gwaith ddatblygu, symudais o amgylch y wlad yn gweithio ym maes rheolaeth gyffredinol yn y GIG ac fel Prif Weithredwr elusen iechyd a gofal cymdeithasol. Yno, roedd trafod contractau, ceisiadau grant a chodi arian cyffredinol i gyd yn rhan o fy rôl, a gwelais pa mor werthfawr oedd ein cefnogwyr a'n rhoddwyr i'n galluogi i gyflawni ein hamcanion. Yn y pen draw, yn 2008, prynodd fy mam a minnau eiddo gyda'n gilydd yn Llan Ffestiniog – a oedd unwaith, mewn cyd-ddigwyddiad od, wedi bod yn eiddo i’r teulu Casson, a gafodd y drwydded gyntaf un (yn 1875) ar gyfer ffatri ffrwydron ym Mhenrhyndeudraeth".
"Yn fuan ar ôl dychwelyd i'r ardal, mynychais ddigwyddiad artistig arbennig a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth Natur yng Ngwaith Powdwr – profiad a oedd yn ysbrydoledig, yn procio'r meddwl ac yn bleserus iawn. Dyna pryd sylweddolais i’r rôl bwysig roedd yr Ymddiriedolaeth yn ei chyflawni – nid yn unig wrth reoli'r amgylchedd ar y safle ond wrth annog plant ac oedolion i ddefnyddio eu dychymyg a gofalu am y bywyd gwyllt a'r tir i genedlaethau'r dyfodol eu profi. Wrth feddwl yn ôl am fy mywyd yn y gwaith, fe sylweddolais i fy mod i eisiau helpu i sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn gallu parhau i wneud ei gwaith anhygoel – heb ddefnyddio gormod o'i hadnoddau gwerthfawr ei hun ar geisio codi arian o ffynhonnell arall".
"Gyda hyn mewn golwg, pan wnes i fy Ewyllys yn ddiweddar, roeddwn i eisiau cynnwys yr Ymddiriedolaeth Natur fel buddiolwr. Wedi'r cyfan, mae codi arian teuluol ar gyfer yr ardal leol yn draddodiad gwych – ar ddiwedd y 1930au, fy mam, Audrey, oedd Brenhines y Carnifal ym Mhenrhyndeudraeth a defnyddiwyd yr arian a godwyd gan y cyngor yn y dathliadau i dalu am gae chwarae newydd ar gyfer y pentref, ac fe gafodd hi’r anrhydedd o’i agor a phlannu coeden yno i goffáu'r digwyddiad! Rwy'n gwybod bod rhaid cefnogi'r holl waith mae'r Ymddiriedolaeth yn ei wneud yn ariannol – a pha mor werthfawr y gallai gwaddol fod o’i ychwanegu at fy aelodaeth bresennol. Cytunais hefyd i ysgrifennu'r darn yma ar gyfer y cylchgrawn rydych chi’n ei ddarllen nawr er mwyn helpu i egluro pam y penderfynais y dylai fy ngwaddol fy hun ddod yn rhan o waddol fy nheulu yng Ngwaith Powdwr - ac, wrth gwrs, i'ch annog chi hefyd i ystyried gwneud eich marc".
Diane Lea
Beth fydd eich gwaddol?
Ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, mae cofio am Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn eich ewyllys yn gallu helpu i gadw eich atgofion am ein bywyd gwyllt yn fyw am genedlaethau i ddod. Mae arnom ni angen y gefnogaeth yma er mwyn sicrhau bod plant Gogledd Cymru’n gallu parhau i fwynhau eu bywyd gwyllt a’u llefydd gwyllt wrth iddyn nhw dyfu i fyny a chael eu teuluoedd eu hunain.
Mae pob rhodd ym mhob Ewyllys, boed yn fach neu’n fawr, yn gwneud gwahaniaeth.