"Ges i fy ngeni chwe mis cyn y Rhyfel, gyferbyn â nythfa frain hynod o swnllyd. Pan oeddwn i'n blentyn, rwy'n cofio'n glir ymweld â St Abbs yn yr Alban - roedd miloedd o adar y môr ar hyd y clogwyni, wrth gwrs, ond yr hyn a lwyddodd i greu’r argraff fwyaf arnaf oedd aderyn bach melyn: y bras melyn, a dywedodd fy Nhad ei fod yn canu ei gân dim ond i mi. Yn ddiweddarach, cefais fy hel i ysgol breswyl yng nghanol nunlle, lle’r oeddwn wedi fy amgylchynu gan erwau o gaeau, Afon Lune, adar a blodau gwyllt di-ri. Pan es i i'r Brifysgol yn Nulyn ar ôl hynny, roedd hi'n gymaint o ryddhad bod mewn dinas oedd yn ddigon bach i gefn gwlad fod o fewn taith hawdd ar y bws - dwi'n bendant ddim yn berson dinas".
Ann McCarter - Anturiaethwr Bywyd Gwyllt
Roedd David a minnau’n gwybod pa mor bwysig oedd – ac ydyw – cefnogi bywyd gwyllt yn ariannol, a’n Hymddiriedolaeth Natur leol.
"Ar ôl i David a minnau briodi, fe aethom ar wyliau i Fae Morecombe. Yno, dechreuon ni ddysgu am yr adar hirgoes ar lanw isel, a phan agorodd Leighton Moss fe ddaeth y ddau ohonom i ymddiddori mwy fyth mewn adar. Yn fuan, fe ddechreuon ni fynd ar wyliau bywyd gwyllt mwy egsotig, a dwi wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â llawer o lefydd yn y byd. Gwirfoddolais unwaith i aros ar ôl ar Aldabra, i'r gogledd o Fadagasgar, yng nghanol Cefnfor India! Ro'n i yno am tua phump neu chwe wythnos, yn mynd i snorclo yn yr ail atol cwrel fwyaf yn y byd - profiad gwirioneddol wych".
"Daeth fy ymweliad cyntaf ag Affrica yn ddylanwad mawr ar ddiddordeb y deuthum i’w ymarfer yng Ngogledd Cymru, pan roddodd ffrind fenthyg camera a lens hir ei wraig i mi. Arweiniodd hynny fi i wneud pob math o sioeau sleidiau ar gyfer grwpiau lleol; ac es i Crete am sawl blwyddyn gydag arbenigwr botanegol a ddysgodd fi sut i dynnu lluniau o flodau. Dwi bellach yn byw yng Ngogledd Cymru ers 58 o flynyddoedd ac yn ymarfer yr holl dechnegau a ddangoswyd i fi yn ôl adref".
Gwarchodfa Natur Chwarel Minera
Cyfle i fod yn dyst i bŵer anhygoel byd natur wrth iddo hawlio’r hen safle diwydiannol yma yn ôl.
"Roedd David a minnau'n gwybod pa mor bwysig oedd hi - ac y mae hi - i gefnogi bywyd gwyllt yn ariannol, yn ogystal â'n Hymddiriedaeth Natur leol. Mae'r planhigion a'r anifeiliaid o'n cwmpas angen amgylchedd iach i fyw ynddo; ac rydyn ninnau a'r cenedlaethau a fydd yn ein dilyn angen llefydd gwyllt i fynd, lle gallwn ni i gyd gymryd hoe o'n bywydau prysur ac anadlu awyr iach. I'r perwyl hwn, rydyn ni wedi bod yn aelodau o'r Ymddiriedolaeth Natur ers blynyddoedd lawer; mae David wedi rhoi rhodd i Warchodfa Natur Chwarel y Mwynglawdd ac wedi gadael gwaddol yn sgil hynny; a dwi wedi addo rhodd i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn fy Ewyllys fy hun. Dwi'n gwybod fy mod i wedi bod yn ffodus iawn mewn bywyd; a dwi’n ei hystyried hi’n fraint gwybod y bydd fy marwolaeth i ryw ddiwrnod yn gadael gwaddol unigryw, lleol, byw".
Ann McCarter
Beth fydd eich gwaddol?
Ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, mae cofio am Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn eich ewyllys yn gallu helpu i gadw eich atgofion am ein bywyd gwyllt yn fyw am genedlaethau i ddod. Mae arnom ni angen y gefnogaeth yma er mwyn sicrhau bod plant Gogledd Cymru’n gallu parhau i fwynhau eu bywyd gwyllt a’u llefydd gwyllt wrth iddyn nhw dyfu i fyny a chael eu teuluoedd eu hunain.
Mae pob rhodd ym mhob Ewyllys, boed yn fach neu’n fawr, yn gwneud gwahaniaeth.