Mae Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen yn un o’r 35 o warchodfeydd natur sy’n eiddo i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru neu’n cael eu rheoli ganddi, ac mae’n adnabyddus ymhlith gwylwyr adar lleol fel un o’r llecynnau gorau i weld adar anhygoel.
Glas y dorlan yw aderyn enwocaf Spinnies, gan ddenu pobl o bell ac agos, ac rydym hefyd wedi cael ymweliad prin gan walch y pysgod yn ôl yn 2022, gan arwain at adarwyr brwd, profiadol a dibrofiad fel ei gilydd, yn heidio i’r cuddfannau. Ond mae cymaint o adar i’w gweld, drwy gydol y flwyddyn.
Os ydych chi'n newydd i wylio adar, a ddim yn gwybod ble i ddechrau, un o'r ffyrdd gorau o ddysgu ydi nid drwy wylio gyda'ch llygaid, ond drwy wrando gyda'ch clustiau. Bydd llawer o wylwyr adar profiadol yn adnabod aderyn wrth ei gân neu ei gri yn aml, ac ar ôl hynny, byddant yn cadarnhau'r rhywogaeth gyda'u sbienddrych neu eu golwg yn unig. Mae dysgu cân a chri unigryw pob aderyn yn ffordd dda o ddechrau arni, yn enwedig os nad ydych chi mor gyflym am ddilyn yr adar gyda'r sbienddrych eto.
Gan fod cymaint o wahanol rywogaethau o adar yn Spinnies Aberogwen, mae sawl cân a chri wahanol y gallwch chi wrando arnyn nhw, ar hyd a lled y warchodfa. Yn y warchodfa, fe allwch chi ddod o hyd i dair cuddfan wahanol. Heddiw, fe fyddem yn hoffi eich cyflwyno chi i'r Brif Guddfan a'r gwahanol synau adar y gallwch chi eu clywed yno.