Croeso’n ôl i'n cyfres blog 'Cân yr Adar yn Spinnies', sy’n rhoi sylw i gân a chri yr adar y gallwch chi eu clywed yng Ngwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen. Rydyn ni’n eich gwahodd chi yn ôl i’r Brif Guddfan, sy’n cael ei hadnabod hefyd fel Cuddfan y Môr, i edrych allan ar y môr-lyn a gwrando ar yr holl adar yn canu y byddwch chi’n eu clywed efallai yn ystod eich arhosiad. Mae rhai o adar y glannau fuon ni’n sôn amdanyn nhw yn y blog diwethaf i’w gweld uwch ben y môr-lynnoedd hefyd, yn mwynhau rhywfaint o seibiant o hela am fwyd.
Cân yr Adar yn Spinnies – Rhan 2: Y Brif Guddfan
Y Brif Guddfan – Golygfa o'r Môr-lyn
Wrth ymyl y teclynnau bwydo, fe welwch chi yn aml lawer o adar bach fel titwod, fel y titw Tomos las, y titw mawr, y pila gwyrdd, y nico, coch y berllan, a'r ji-binc.
Mae cân y titw Tomos las yn swnio fel “sispi si-hi-hi-hi-hi-hi”, ond mae cân y titw mawr yn cynwys nodau tebyg i si-so, y mae rhai wedi dweud eu bod yn swnio fel “teacher, teacher, teacher”.
Mae cân y pila gwyrdd yn gymysgedd o synau cwafrio a thrydar, yn gymysg â chwiban “tsy-sii” a synau cras “pytt”.
Mae cân y nico yn gymysg o nodau a thrydar, gyda synau sgwrsio a synau fel “sgip-i-lip” a “tshair”. Mae coch y berllan yn gwneud sain “Piw” neu “Phiw” isel, nodyn sengl weithiau, ac olyniaeth o nodau dro arall, fel “piw-piw-piw”. Mae cân y ji-binc yn “tship-tship, tshiritshiri, tship-tshiwiioo” am yn ail â thrydar a synau “tshyp”.
Mae’n ymddangos yn aml bod y nico’n ffraeo gydag adar eraill am ei hoff declyn bwydo, felly rydych chi’n siŵr o’i glywed o’n sŵn i gyd wrth eistedd yn agos at y teclynnau bwydo.
Dros y môr-lyn, weithiau fe allwch chi weld y gnocell fraith fwyaf yn y coed. Mae'r gnocell fraith fwyaf yn gwneud sŵn “Tic!” eithaf uchel a gall hefyd wneud sŵn ratlo pan fydd wedi dychryn. Bydd hefyd yn gwneud y sŵn cnocio cyflym ar bren, sy’n cael ei alw’n ddrymio, y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei gysylltu â chnocell y coed, a mae’n gwneud hyn ar gyfer sawl ymddygiad, fel bwydo, cyfathrebu ac ar gyfer creu nythod yn y gwanwyn.
Mae adar y glannau, fel y crëyr bach a’r crëyr glas, i’w gweld ar draws y môr-lyn hefyd, yn ystod penllanw yn aml, ac yn gorffwys ar yr ynysoedd bychain a’r tir o amgylch y môr-lyn.
Yn rhan nesaf y gyfres, byddwn yn trafod Cuddfan Glas y Dorlan.
BLAENOROL: Cân yr Adar yn Spinnies Rhan 1 NESAF: Cân yr Adar yn Spinnies Rhan 3