Mae galaru yn bwysig. Mae coffáu’r rhai rydyn ni wedi’u colli yn rhan o’r broses o wella ac mae cofebion yn cyfrannu at y siwrnai honno. Maent yn caniatáu i atgofion gwerthfawr fod yn fyw o hyd drwy wrthrych neu le arbennig sy’n bwysig iawn i ni.
O lecynnau prydferth i balmentydd, mae cofebion, teyrngedau a chysegrfeydd yn dod yn gyffredin. Ond efallai y dylen ni oedi, dim ond am eiliad, ac ystyried pa mor briodol ydyn nhw? Nid yw llawer o gofebion o'r fath yn gyfeillgar i'r amgylchedd, gallant fod yn beryglus i fyd natur a gallant - gan rai - gael eu hystyried yn sbwriel hyd yn oed. Dydw i ddim eisiau amharu ar broses alaru unrhyw un, ac rydw i’n deall yn iawn bod colli rhywun annwyl, wrth gwrs, yn gyfnod anodd iawn. Ond, cyn i ni nodi marwolaeth unrhyw un yn y ffordd yma, efallai y dylen ni ystyried yr effaith anfwriadol y gallai ein dewisiadau ei chael?
Pam na ddylen ni adael tuswau o flodau?
Mae'r rhan fwyaf o duswau wedi'u lapio mewn rhywbeth. Mae hyn yn newyddion drwg i fywyd gwyllt a all geisio bwyta'r pecyn yma neu gael ei ddal a'i anafu ynddo - gall adar leinio eu nythod ag ef hyd yn oed. Gall plastig gymryd cannoedd o flynyddoedd i bydru ac er bod blodau weithiau'n dod mewn seloffen biobydradwy, mae'n parhau i fod yn berygl corfforol i fywyd gwyllt am beth amser.
A ddylen ni ddefnyddio balŵns?
Mewn ffordd amlycach efallai na thuswau, mae balŵns yn gadael llanast amgylcheddol. Os byddwn yn rhyddhau balŵn, mae’n mynd i ddod i lawr yn rhywle – sy’n gadael rhywfaint o rwber, plastig neu ffoil yn yr ecosystem a fydd yn para am ganrifoedd ac o bosibl yn achosi niwed difrifol i fywyd gwyllt.