Buchod coch cwta bendigedig

Buchod coch cwta bendigedig

7-spot Ladybird ©Rachel Scopes

Golwg fanylach ar un o chwilod mwyaf poblogaidd y DU.

Mae’r amrywiaeth o chwilod yn y DU yn syfrdanol – tua 4,000 o rywogaethau gwahanol! Maen nhw'n gwneud llawer o swyddi pwysig, o symud tail i beillio planhigion. Mae rhai yn helwyr cyflym ac ystwyth, eraill yn ymlwybro o un lle i’r llall yn eu hamser eu hunain. Gallant fod yn ddu neu'n lliwgar, yn blaen neu'n batrymog. Os ydych chi’n hoff iawn o chwilod, mae rhywbeth newydd i'w ddarganfod bob amser.

Mae’n debyg mai buchod coch cwta yw ein chwilod mwyaf cyfarwydd ni – a hefyd rhai o’r rhai mwyaf poblogaidd. Maen nhw’n cael eu hadnabod fel ffrind y garddwr, gan fod llawer yn hela’r affidau sy’n bwydo ar ein planhigion gwerthfawr ni o bryd i’w gilydd. Y ddelwedd glasurol o fuwch goch gota yw'r un 7 smotyn, gyda saith smotyn du ar draws ei chefn coch llachar. Ond mae tua 46 o rywogaethau o fuchod coch cwta yn y DU, gydag amrywiaeth o liwiau a phatrymau gwahanol.

Cylch bywyd y fuwch goch gota

Yn yr un modd â glöynnod byw, mae gan fuchod coch cwta gylch bywyd pedwar cam: ŵy, larfa, chwiler, oedolyn. 

Mae'r oedolion yn dodwy wyau, sy'n deor yn gywion o’r enw larfa. Mae'r larfa yn bwydo ac yn tyfu fesul cyfnod, gan fwrw eu sgerbwd allanol i dyfu un mwy bob tro. Yr enw ar y cyfnodau yma ydi ‘instarrau’ ac mae pedwar ohonyn nhw. 

Pan fydd y larfa wedi tyfu'n llawn, maen nhw'n troi'n chwilerod. Maen nhw’n glynu wrth ddeilen neu arwyneb arall ac yn troi'n blisgyn caled - mae'r rhain yn aml yn edrych fel blob patrymog. Yn y plisgyn yma, maen nhw’n trawsnewid yn chwilod oedolion. 

Pan ddaw'r chwilod allan o'u chwilerod am y tro cyntaf, nid oes ganddynt y lliwiau a'r patrymau cyfarwydd. Gall gymryd ychydig ddyddiau i'r lliwiau yma ymddangos. Bydd y buchod coch cwta aeddfed yma’n ymddangos yn hwyr yn yr haf fel arfer ac yn treulio'r gaeaf yn swatio mewn agennau, yn barod i ymddangos eto yn y gwanwyn. 

The larva of a 7-spot ladybird scurrying across a leaf.

7-spot ladybird larva © Vaughn Matthews

Anatomeg buwch goch gota

Er mwyn adnabod buchod coch cwta, mae'n help gwybod ychydig am eu strwythur. Gall astudio’r patrymau ar dair prif ran eu corff helpu i ddatgelu pa rywogaeth rydych chi’n edrych arni. Y rhan gyntaf yw'r pen, sy'n eithaf amlwg. Yr ail ran yw'r pronotwm, sef y darn eang yn union y tu ôl i'r pen. Y drydedd ran yw cloriau’r adenydd (o’r enw elytra), sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf o gefn y fuwch goch gota.

A 7-spot ladybird on a leaf, with annotations pointing to its elytra (wing casings), pronotum and head

7-spot ladybird © Dawn Monrose

Buchod coch cwta niferus

O’r tua 47 o fuchod coch cwta sy’n byw yn y DU, dim ond tua 26 sy’n cael eu hystyried yn ‘fuchod coch cwta amlwg’. Dyma'r buchod coch cwta mawr, lliwgar sydd i’w gweld yn aml ar blanhigion. Mae'r rhywogaethau eraill yn llai, yn anoddach dod o hyd iddyn nhw ac yn anoddach eu hadnabod. Dyma saith buwch goch gota amlwg i gadw llygad amdanyn nhw! 

A 7-spot ladybird, with 7 black spots on its red back, climbs a blue forget me not

7-spot ladybird © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Buwch goch gota 7 smotyn

Y fuwch goch gota glasurol, sydd i’w gweld mewn parciau a gerddi ledled y DU. Mae’n fuwch goch gota fawr, 5 i 8mm o hyd fel arfer. Mae ganddi gloriau adenydd coch, gyda thri smotyn du ar bob ochr a seithfed smotyn yn y canol, ychydig y tu ôl i'r pronotwm. Chwiliwch amdani ar blanhigion sy'n tyfu'n isel.

A cluster of harlequin ladybirds, in various red and black patterns, roosting on a wall

Harlequin ladybirds © Philip Precey

Buwch goch gota amryliw

Cyrhaeddodd y rhywogaeth Asiaidd yma y DU am y tro cyntaf yn y 2000au cynnar ond mae bellach yn gyffredin ledled Cymru a Lloegr. Mae wedi cyrraedd yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.  

Fel buchod coch cwta eraill, bydd y rhywogaeth yma’n bwyta affidau ar gnydau a phlanhigion ond wedyn, yn anffodus, mae’n troi ei sylw at wyau buchod coch cwta eraill, ac wyau a lindys pryfed peillio gwerthfawr eraill fel gwyfynod a glöynnod byw. 

Mae'n 5 i 8mm o hyd, ond mae'n dod mewn amrywiaeth ddryslyd o liwiau a phatrymau. Un cliw defnyddiol yw bod gan y buchod coch cwta amryliw goesau browngoch fel arfer. 

Mae gan un o’r ffurfiau sydd i’w gweld amlaf gloriau adenydd oren gyda 15 i 21 o smotiau du, a phronotwm eithaf gwyn gyda marc du siâp ‘M’. Mae gan ffurf gyffredin arall gloriau adenydd du gyda phedwar smotyn coch. Ond mae mwy na 100 o batrymau lliw gwahanol wedi'u cofnodi!

A pine ladybird, with four red markings on its black back, hunkered down on the trunk of a birch tree

Pine ladybird © Tom Hibbert

Buwch goch gota pinwydd

Mae'r fuwch goch gota fechan yma’n gyffredin yng Nghymru a Lloegr, gyda phoblogaethau gwasgaredig mewn mannau eraill yn y DU. Mae'n tyfu i tua 4mm ac mae'n ddu i gyd, gyda phedwar marc coch ar gloriau ei hadenydd. Mae'r ddau farc blaen yn siâp atalnod. Fel mae'r enw'n awgrymu, mae i'w gweld yn aml ar foncyffion a changhennau coed pinwydd - ond mae i'w gweld ar rywogaethau eraill hefyd.

An orange ladybird, with an orange body covered in white spots, stands on a leaf

Orange ladybird © John Bridges

Buwch goch gota oren

Mae’r fuwch goch gota nodedig yma i’w gweld ledled y DU. Mae tua 6mm o hyd ac yn oren i gyd, gyda 12 i 16 o smotiau gwyn ar gloriau ei hadenydd. Mae'n bwydo ar lwydni ar ddail ac i'w gweld yn aml o amgylch coed sycamorwydd ac ynn.

A 14-spot ladybird, with rectangular black spots on its yellow back, climbs over a leaf

14-spot ladybird © Amy Lewis

Buwch goch gota 14 smotyn

Mae'r fuwch goch gota fach ddeniadol yma’n gyffredin yn y rhan fwyaf o'r DU, er ei bod yn brinnach yn yr Alban. Mae tua 4mm o hyd ac yn felyn fel arfer gyda marciau du. Mae gan y cloriau adenydd smotiau du sgwâr sy'n aml yn asio gyda'i gilydd i ffurfio llinellau. Mae i’w gweld fel arfer yn agos at y ddaear, yng nghanol glaswelltau a blodau.

A 22-spot ladybird, bright yellow with black spots, climbing up a plant stem

22-spot ladybird © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Buwch goch gota 22 smotyn

Un o’n buchod coch cwta mwyaf llachar ni, sydd i’w gweld ledled y rhan fwyaf o’r DU ond ei bod yn brin yn yr Alban. Mae'n rhywogaeth fechan, tua 3 i 4mm o hyd. Mae ganddi gloriau adenydd melyn tanbaid gyda 22 o smotiau du. Fel y fuwch goch gota oren, mae'n bwydo ar lwydni yn hytrach nag affidau. Mae i’w gweld yn aml mewn dolydd neu ar blanhigion llysieuol mewn ardaloedd eraill. Mae'n hoff o efwr yn ôl pob tebyg.

An eyed ladybird, with pale rings around the black spots on its orange-red back, standing on a pine cone

Eyed ladybird © Frank Porch

Buwch goch gota lygadog

Buwch goch gota fwyaf y DU, yn tyfu i tua 8mm. Mae’n gyffredin yn y DU, ond nid yw i’w gweld yn aml. Mae'n treulio llawer o'i hamser yng nghanopi coedydd conwydd, yn enwedig pinwydd yr Alban, yn hela affidau. Mae cloriau ei hadenydd yn goch tywyll, gyda 15 o smotiau du fel arfer - er gall y smotiau amrywio o ddim i 23. Fel arfer mae gan y smotiau fodrwyau gwelw o'u cwmpas nhw.