Gwarchodfa Natur Traeth Glaslyn
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Trwy gydol y flwyddynAm dan y warchodfa
Newid o hyd
Mae’r warchodfa yma gyda’i chors halen a’r aber yn newid drwy’r amser ac mae’n llecyn delfrydol i wylio grymoedd byd natur ar waith: mae pŵer y llanw, y tymhorau a’r tywydd i’w weld yn glir yma. Wedi’i chreu o glytwaith o laswelltir gwlyb, cors halen a choetir helyg gwlyb sy’n gallu bod o dan ddŵr yn llwyr weithiau, mae’r ddôl hon sy’n orlifdir yn hafan i adar. Mae adar rhydio i’w gweld yma drwy gydol y flwyddyn yn pigo’r mwd, a’r rhywogaethau’n newid gyda’r tymhorau – mae’n werth dod yma fwy nag unwaith. Hefyd mae’r cyfuniad unigryw o lifogydd a dŵr hallt yn creu amodau perffaith ar gyfer rhai o’n planhigion prinnaf. Mae golygfeydd trawiadol ac adar prysur yn creu llecyn gwych i fwynhau'r natur cymru ar ei orau.
Pori er budd glaswelltir
Nod yr Ymddiriedolaeth Natur yw cynnal y clytwaith o ardaloedd agored a choediog ledled y warchodfa. Mae gwartheg yn pori’r safle yn y gwanwyn a’r gaeaf i atal ymlediad pellach y prysgwydd. Hebddynt, byddai’r glaswelltir yn debygol o gael ei lenwi gan blanhigion fel mieri ac eithin ac yn troi’n goetir yn y diwedd. Mae cynnal yr amrywiaeth cynefin yma’n galluogi i gymaint â phosib o wahanol rywogaethau ddefnyddio’r safle
Cyfarwyddiadau
Mae Traeth Glaslyn i’r de ddwyrain o Borthmadog, ar ddiwedd y Cob – parciwch yn y gilfan ar yr A497 (SH 585 378). Gellir cyrraedd y guddfan adar drwy giât fechan ger bwthyn y tollborth. Mae posib cyrraedd pen gogleddol y warchodfa drwy gerdded tua’r gogledd ar hyd y ffordd ac wedyn defnyddio camfa fechan ar y chwith gyferbyn â wal uchel, neu droi i’r chwith yn y groesffordd nes cyrraedd y warchodfa (SH 592 389).