Gwarchodfa Natur Porth Diana

Porth Diana Nature Reserve. A rocky outcrop on the reserve, with layered striations, and small plants and grasses growing out of the larger cracks in the rock.

Porth Diana Nature Reserve_Lin Cummins

Stonechat

Stonechat © Adam Jones

Yellow flag iris

Yellow flag iris © Vaughn Matthews

Heath spotted orchid

Heath spotted orchid - Philip Precey

Gwarchodfa Natur Porth Diana

Perl ddeheuol yng nghynefin rhostir Ynys Gybi lle mae posib dod o hyd i’r cor-rosyn rhuddfannog – blodyn sirol Ynys Môn.

Lleoliad

Ffordd Ravenspoint
Bae Trearddur
LL65 2AQ

OS Map Reference

SH254781 - reserve entrance
OS Explorer Map 262
A static map of Gwarchodfa Natur Porth Diana

Gwybod cyn i chi fynd

Maint
2 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Ddim parcio gyferbyn y warchodfa; Parciwch ar ffordd Mona a mwynhewch y cerdded rownd y bae hyd at y warchodfa

Anifeiliaid pori

Merlod neu wartheg, gaeaf.

Llwybrau cerdded

Hawl tramwy cyhoeddus anwastad a llwybr trwy rug a glaswelltir

Mynediad

Mae’r warchodfa’n cynnwys giatiau mochyn, heb fynediad i bobl anabl, ac mae’n cynnwys tir gwledig cymharol anwastad. Mae’r llwybrau’n gul ac wedi’u hamgylchynu gan brysgwydd yn aml.

Cŵn

Ar dennyn

Pryd i ymweld

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Canol yr haf ar gyfer creigiog brych

Am dan y warchodfa

Blodau gwyllt a golygfeydd o’r môr

Dyma ychwanegiad gwych at ddiwrnod ar lan y môr. Efallai nad yw’r warchodfa fechan hon yn edrych yn drawiadol o bell, ond o edrych yn fanylach, bydd y casgliad o flodau a phlanhigion yn eich cadw chi’n brysur. Mae’r gymysgedd o laswelltir a rhostir yn darparu cynefin ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau, rhai sy’n anodd eu canfod yn unrhyw le arall. Yn ystod yr haf, mae’r rhostir yn frith o binc golau tegeirianau brych y rhos a’r glaswelltir yn fôr o’r ellesg felen a phinc cryf blodau’r brain mewn ardaloedd gwlypach. Mae’r allgreigiau’n gartref i lawer o rywogaethau o gennau lliwgar drwy gydol y flwyddyn. Ychwanegwch rywfaint o liw at eich trip i lan y môr a gwneud amser am ymweliad!

Merlod yr arfordir

Er mwyn cadw’r glaswelltir yn agored a’r rhostir yn amrywiol ac yn gynhyrchiol, mae merlod a gwartheg yn pori’r safle ac mae’r llwyni eithin newydd yn cael eu tynnu. Pe na bai hyn yn digwydd byddai’r safle, ymhen amser, yn cael ei orchuddio gan eithin a byddai nifer y gwahanol gynefinoedd ar y safle’n lleihau. Yn ei dro, byddai hynny’n golygu bod llai o rywogaethau’n gallu ffynnu yma. Mae cynnal tirwedd agored yn hynod bwysig i rai o’r planhigion llai sy’n blodeuo – gan gynnwys y cor-rosyn rhuddfannog.

Cyfarwyddiadau

Ewch tua’r gogledd orllewin am Fae Treaddur ar y B4545 a throi i’r chwith ar Ffordd Ravenspoint ychydig cyn y bae. Parciwch lle mae hynny’n cael ei ganiatáu a cherdded i fyny Lôn Porth Diana, gan ddal i’r chwith a mynd i mewn i’r warchodfa gan ddefnyddio’r llwybr troed cyhoeddus (SH 256 781).

Cysylltwch â ni

Chris Wynne
Cyswllt ffôn: 01248 351541