Mis Pride yn yr Ymddiriedolaethau Natur

Mis Pride yn yr Ymddiriedolaethau Natur

Out For Nature yw rhwydwaith staff yr Ymddiriedolaethau Natur ar gyfer cyflogeion sy’n rhan o’r gymuned LGBTQ+. Pwrpas y rhwydwaith yw cynnig cefnogaeth cyfeillion, codi ymwybyddiaeth a dathlu cyflawniadau ar gyfer y gymuned LGBTQ+, a helpu pobl LGBTQ+ i deimlo'n ddiogel, cael eu cefnogi a gallu dod â'u hunain cyfan i'r gwaith.

Mae’n fis Pride!

I gofio am derfysgoedd Stonewall yn 1969, mae mis Mehefin yn nodi mis Pride LGBTQ+, lle rydyn ni’n dathlu bywydau a hunaniaeth y cymunedau Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol a Chwiar.

 

Fel rhan o'n hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), rydyn ni’n tynnu sylw at y dyddiau a’r misoedd ymwybyddiaeth sy'n berthnasol i'n gwaith ni neu i'n staff a'n gwirfoddolwyr. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn annog pob aelod o staff i ddod â’u hunan cyfan i’r gwaith, sy’n golygu dathlu ein hamrywiaeth a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar ein cymunedau. Drwy fod yn sefydliad cynhwysol, rydyn ni’n rhoi cyfle i bawb wneud eu gorau i helpu ymdrechion natur a chadwraeth.

 

Un o nodau allweddol yr Ymddiriedolaethau Natur yw annog 1 o bob 4 o bobl i weithredu dros fyd natur. Mae llawer o bobl yn y gymuned LGBTQ+ sydd â gwir empathi tuag at fyd natur. Mae 15% o staff yr Ymddiriedolaethau Natur yn LGB+ (lesbiaidd, hoyw a deurywiol), sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol o 3.3%, ac mae 0.6% yn drawsryweddol, sydd ychydig yn uwch na’r DU yn gyffredinol. Gyda chymaint o aelodau o staff LGBTQ+ mae'n bwysig iawn i ni siarad am Pride a'i ddathlu.

 

Mae ymgyrchu yn rhywbeth cyfarwydd i lawer o'r gymuned LGBTQ+, dros bethau maen nhw’n credu ynddyn nhw ac achosion agos at eu calon, oherwydd yr angen am ymladd dros eu hawliau personol eu hunain dros y blynyddoedd. Digwyddodd terfysgoedd Stonewall yn 1969 yn y Stonewall Inn yn Efrog Newydd, pan gynhaliodd yr heddlu gyrch mewn bar hoyw a arweiniodd at wythnos o derfysg a phrotestio. Dan arweiniad merched traws du, safodd pobl LGBTQ+ yn erbyn gormes ochr yn ochr â chyfeillion o bob math, ac roedd yn her aruthrol.

4 people with rainbow flags and face paint stand in a crowded city square. They are holding up a banner that reads: out for nature.

© NWWT

Y flwyddyn ganlynol, yn 1970, cynhaliwyd yr orymdaith Pride gyntaf yn Efrog Newydd. Dechreuodd Pride fel protest ac mae’n parhau fel dathliad o’r hawliau rydyn ni wedi’u sicrhau ac yn frwydr dros y rhai rydyn ni’n dal i fod eu heisiau. Mae cymaint o bobl LGBTQ+ yn gyfeillion gwych i fyd natur ond er mwyn iddyn nhw allu ein helpu ni, mae'n rhaid i ni fod yn gyfeillion iddyn nhw.

 

Ers 1972, mae gorymdeithiau Pride wedi cael eu cynnal yn y DU, hyd yn oed yn ystod cyfnod Adran 28 pan oedd “hyrwyddo cyfunrhywioldeb” wedi’i wahardd rhwng 1988 a 2003. Wrth i fis Pride LGBTQ+ gynyddu bob blwyddyn, mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn falch o gymryd rhan ac o fod yn weladwy yn y frwydr yma.

 

Dydi rhai pobl ddim yn datgelu eu bod yn LGBTQ+ oherwydd eu preifatrwydd eu hunain neu oherwydd ofn cael eu gwrthod oherwydd pwy ydyn nhw. Fel person trawswryw, fe gymerwyd yn ganiataol mai merch oeddwn i pan gefais i fy ngeni ond rydw i'n mynegi fy hun ac yn uniaethu fel gwrywaidd, sydd rywle yn agos at fod yn wryw. Dydw i ddim yn ‘pasio’ fel dyn, felly does gen i ddim dewis ond bod ‘allan’. Er mwyn i mi gael fy ngalw wrth fy enw, Jayke, ac i bobl wybod ei fod yn golygu fi, does gen i ddim dewis o guddio fy hunaniaeth.  

Fodd bynnag, ni ddylai unrhyw un sy'n fodlon gweithio gyda ni i warchod byd natur gael ei orfodi i guddio rhan mor fawr o'i hunaniaeth neu ei deulu. Os ydyn ni am lwyddo i warchod bywyd gwyllt, mae’n rhaid i ni dderbyn a chroesawu pawb a phob rhan ohonyn nhw. Dyma pam mai ein gwaith ni yw bod yn agored ac yn weladwy, siarad am bwy ydym ni a pham ein bod ni’n bwysig fel rhan o’r mudiad dros fyd natur. Dyma pam rydyn ni'n mynychu gorymdeithiau Pride ac yn trefnu digwyddiadau ar themâu LGBTQ+. Felly pan fydd rhywun eisiau dod yn rhan o'r ateb y mae dirfawr ei angen arnom ni, fe fyddan nhw’n gwybod y byddan nhw’n ddiogel ac yn cael eu croesawu. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n dod i ymuno â ni yn Pride Llundain a Manceinion eleni!

 

Finley Reynolds (Nhw / Fo) – Cyd-gadeirydd Out For Nature sy’n frwd dros wneud gofod natur yn hygyrch i bawb.

 

Jayke Forshaw (Fo / Nhw) – Cyd-gadeirydd Out for Nature sy’n credu mai mwynhau byd natur yw’r cam cyntaf tuag at fod eisiau ei warchod.