Mae'r rhan fwyaf o bobl yn eithaf cyfarwydd â'r syniad o fudo. Mae anifeiliaid yn gwneud siwrneiau epig sy’n gallu croesi gwledydd a chyfandiroedd hyd yn oed. Mae llawer o'r rhain yn dymhorol, wedi'u hysgogi gan newidiadau mewn tywydd, tymheredd a faint o olau dydd rydyn ni’n ei gael. Mae pob math o anifeiliaid yn mudo, o bryfed hofran i forfilod, ond adar sy'n dod â mudo yn fyw. Drwyddyn nhw, fe allwn ni weld y mudo ar waith, yn datblygu yn amlwg yn yr awyr uwch ein pen.
Mae adar amrywiol ar grwydr drwy gydol y flwyddyn, ond y gwanwyn a'r hydref sy'n dod â'r newid mwyaf. Yn yr hydref, mae ein hymwelwyr haf ni’n gadael, gan fynd tua'r de i chwilio am hinsawdd gynhesach. Mae crwydriaid y gaeaf yn cymryd eu lle, gan ffoi rhag tywydd garw gogledd a dwyrain Ewrop.