
Copyright Wales Coast Path

Gogarth Nature Reserve © Rob Booth

Pyramidal orchid - Paul Lane

Silver studded blue © Guy Edwardes2020VISION

Kestrel © Steve Waterhouse

Chough © Mike Snelle
Gwarchodfa Natur Gogarth
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Gwanwyn ac yr hafAm dan y warchodfa
Glaswelltir y glöyn byw glas
Mae’n bur debyg bod ongl serth y safle yma wedi bod yn help i’w warchod - yn enwedig pan mae clytiau o lwyni eithin pigog a drain duon i’w gweld am yn ail â’r glaswellt! Diolch byth bod edrych ar y safle o Marine Drive yn ffordd wych o weld dwy rywogaeth fwyaf arbennig y warchodfa: y brain coesgoch chwareus, sgwrslyd a glöyn byw hardd y glesyn serennog (is-rywogaeth sydd ond i’w ganfod ar y Gogarth ac yn y cyffiniau a dweud y gwir). Mae’r glaswelltir yn llawn blodau hoff o galchfaen - rhosyn y graig a’r cor-rosyn lledlwyd, teim gwyllt, tegeirian pigfain, effros, ysgall dreinwyn a thresgl - ac, yn ystod y nos, golau gwyrdd egwan y pryfed tân yn symud yng nghanol y glaswellt.
Pori gan eifr
Mae rheolaeth yr Ymddiriedolaeth Natur yma’n ceisio cadw cydbwysedd gofalus rhwng y glaswelltir sydd â chyfoeth o rywogaethau a’r llwyni mae’r adar eu hangen ar gyfer nythu. I helpu i gyflawni hyn, mae’r safle’n cael ei bori gan ddefaid a geifr, ac mae’r eithin a’r drain duon yn cael eu rheoli gyda llaw i’w hatal rhag lledaenu.
Oeddech chi’n gwybod?
Credir fod yr enw Saesneg ‘Orme’ yn dod o’r hen air Llychlynaidd ‘urm’ neu ‘orm’, sy’n golygu sarff fôr. Mae hyn yn cyfeirio at ymddangosiad y pentir, yn codi o’r môr fel pen neidr.
Cyfarwyddiadau
Mae’r Gogarth ar ochr orllewinol y Gogarth Fawr. Dilynwch yr A546 i Draeth Gorllewinol Llandudno, gan adael y ffordd hon am Barêd y Gorllewin a chadw’r môr mor agos â phosib ar y chwith. Parciwch yn yr ardal lle mae’r ffordd yma’n uno â Ffordd Abbey a cherdded i fyny ar Marine Drive. Ar ôl ryw 15 munud, ewch i mewn i gysgodfan bychan ar y chwith (SH 759 831) – rydych chi’n edrych dros y warchodfa o’r fan honno.