Gwarchodfa Natur Aberduna
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amser.Amser gorau i ymweld
Trwy gydol y flwyddynAm dan y warchodfa
Blodau a brithion
Mae Aberduna yn warchodfa 20 hectar drawiadol sy’n cynnig golygfeydd godidog ar draws dyffryn Alun draw am Foel Famau a Bryniau Clwyd. Calchfaen yw sylfaen y safle cyfan ac mae’n dylanwadu’n fawr ar y cynefinoedd yn y warchodfa: coetir gyda llennyrch, prysgwydd, rhedyn, glaswelltir calchaidd, ardaloedd o galchfaen noeth a phyllau bychain. Yn ystod y gwanwyn a’r haf, mae’r safle’n llawn blodau gwyllt - clychau’r gog, tegeirianau coch y gwanwyn, tegeirianau pêr, briallu Mair, cor-rosyn cyffredin a lloer-redyn yn yr ardaloedd o laswelltir a llysiauSteffan yr ucheldir, cwlwm cariad, suran y coed, blodau’r gwynt a blodyn-ymenyn peneuraid yn y coetir. Mae fioledau cyffredin yn tyfu yng nghysgod brith y rhedyn a’r coed, gan ddarparu bwyd i lindys glöyn byw y britheg berlog fach.
Pori glaswelltir, teneuo coed
Mae’r gymuned amrywiol o blanhigion ar y glaswelltir calchfaen sych yn cael ei chynnal yn bennaf gan ferlod a defaid, sy’n pori rhwng misoedd Medi a Mawrth fel rheol. Mae’r rhedyn a’r prysgwydd yn cael eu hatal rhag tyfu’n rhy gryf, sydd o fudd i flodau gwyllt. Mae llennyrch yn cael eu creu a choed yn cael eu teneuo yn y coetir llydanddail cymysg, er mwyn creu cymysgedd o oedran ac uchder yn y coed, ac i annog fflora brodorol y ddaear i ffynnu. Mae boncyffion a changhennau’n cael eu gadael ar lawr y coetir i ddarparu cynefin o bren marw i ffyngau ac infertebrata a safleoedd gaeafgysgu i amffibiaid.
Oeddech chi’n gwybod?
Ffurfiwyd y calchfaen sy’n sylfaen i Aberduna gan weddillion planhigion ac anifeiliaid morol a oedd yn byw 350 o filiynau o flynyddoedd yn ôl pan oedd y tir hwn i’r de o’r cyhydedd o dan foroedd trofannol cynnes.
Cyfarwyddiadau
Mae Gwarchodfa Natur Aberduna 3 milltir i’r de orllewin o’r Wyddgrug. O’r Wyddgrug, dilynwch yr A494 a throwch i’r chwith am Faeshafn ar ôl mynd drwy Wernymynydd