Yn ystod gaeaf 2020/2021 bu rhanddeiliaid gan gynnwys Grwpiau Gweithredu Lleol o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan mewn holiadur ynghylch sut maent yn mynd i'r afael â rhywogaethau estron ymledol (rhywogaethau ymledol). Yma rydym yn rhannu crynodeb o'r canfyddiadau, a sut mae'r atebion yn dylanwadu ar brosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN). Gallwch hefyd wylio ein gweminar isod i gael gwybod mwy. Cysylltwch â ni i ymuno â'n Rhwydwaith neu os ydych chi'n ymwneud â gwaith gyda rhywogaethau ymledol yng Nghymru!
Cymerodd cyfanswm o 87 ran yn yr holiadur a gynhaliwyd gan gydweithwyr o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru. Isod mae crynodeb o'r canlyniadau.
Sut mae eich grŵp / awdurdod lleol yn mynd i'r afael â rhywogaethau ymledol?
- Mae 45 o rywogaethau, tacson neu 'grŵp pryder' yn cael eu rheoli yng Nghymru: 23 rhywogaeth ar y tir, 15 dŵr croyw a 9 rhywogaeth forol (edrychwch isod).
- Mae ffromlys chwarennog (Impatiens glandulifera) a chanclwm Japan (Reynoutria japonica) yn cael eu rheoli gan fwy o randdeiliaid nag unrhyw rywogaethau ymledol eraill yr adroddir amdanynt.
- Mae 10 mesur rheoli gwahanol yn cael eu defnyddio i reoli rhywogaethau ymledol, rheolaeth gemegol a mecanyddol yn bennaf.